Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Pwysau iach

Mae bwyta’n iach a gwneud ymarfer corff yn ffyrdd gwych o fyw bywyd sy'n fwy iach ac yn fwy heini. Maent yn lleihau’r perygl o glefyd y galon, rhai mathau o ganser, diabetes a phwysedd gwaed uchel, a gallai eich cynorthwyo i gyrraedd pwysau iach a chadw at y pwysau hwnnw.

Gwybod mynegai mas eich corff (BMI)

Os ydych yn poeni am fod dros bwysau, bwyta'n iach a gwneud gweithgarwch corfforol yw'r ffordd orau a mwyaf synhwyrol o ostwng eich pwysau a'i gynnal ar y lefel honno.

Gallwch weld a yw'ch pwysau'n iach drwy gyfrifo mynegai mas eich corff (BMI). Rydych yn gwneud hyn trwy ganfod eich pwysau (mewn cilogramau) a'i rannu gyda'ch taldra (mewn metrau) wedi'i luosi â'i hunan. Felly, os ydych yn pwyso 65 cilogram ac yn 1.73 metr o daldra, byddai gennych BMI o 65 (1.73 x 1.73) = 21.7.

Ystyrir o dan 18.5 yn rhy ysgafn, dros 25 yn rhy drwm, a thros 30 yn ordew.

Nid yw BMI o dan 18.5 yn ddymunol, ac efallai y bydd angen deiet mwy iach arnoch gyda phrydau bwyd rheolaidd ac ymarfer corff. Gallai fod yn werth cael archwiliad iechyd gyda'ch meddyg teulu i'ch helpu i wneud y newidiadau angenrheidiol.

Er ei fod yn ddefnyddiol i'r rhan fwyaf o bobl, nid yw BMI yn addas i bawb. Nid yw'n addas i blant ifanc, nac i bobl hŷn. Nid yw'n ddefnyddiol iawn chwaith os ydych chi'n athletaidd, yn gorfforol weithgar, a bod gennych lawer o gyhyrau yn naturiol. Bydd y cyhyrau trymach yn gwneud i'ch mesuriad BMI fod yn uwch.

Deiet iach

Yn gyffredinol, mae ffrwythau a llysiau yn fwydydd isel mewn braster a chalorïau. Felly, gall bwyta ffrwythau a llysiau yn hytrach na bwydydd sy'n uchel mewn braster ac yn cynnwys siwgr ychwanegol eich helpu i gyrraedd, neu gynnal, pwysau iach.

Mae deiet iach yn cynnwys:

  • digon o fwydydd starts megis bara, reis, pasta, grawnfwydydd brecwast, tatws, iams a thatws melys - chwiliwch am fathau sy'n uwch mewn ffibr lle bo modd (megis pasta neu fara blawd cyflawn)
  • o leiaf pum darn o ffrwyth a llysiau amrywiol yn ddyddiol
  • meintiau cymedrol o gynnyrch llaeth (neu gynnyrch amgen) - chwiliwch am fersiynau isel mewn braster lle bo modd
  • meintiau cymedrol o gig, pysgod neu gynnyrch amgen megis wyau, ffa, pys a ffacbys - chwiliwch am fathau sy'n cynnwys llai o fraster lle bo modd
  • ambell i ddanteithfwyd (dylid bod yn gymedrol wrth fwyta bwydydd sy'n uwch mewn braster, halen neu siwgr ychwanegol)
  • ychydig o halen - darllenwch y label bob tro

Ymarfer Corff

Ceisiwch ddod o hyd i ffyrdd realistig o wneud mwy o ymarfer corff. Does dim rhaid i hyn olygu mynd i'r ganolfan hamdden neu roi cynnig ar chwaraeon – mae'n well gan lawer o bobl fynd am dro yn rheolaidd neu ymuno â dosbarth dawns.

Fel oedolyn, dylech anelu at wneud gweithgarwch corfforol ar bump neu fwy o ddyddiau bob wythnos:

  • bydd 30 munud o weithgarwch yn cael manteision iechyd cyffredinol ac yn gwella'ch ffitrwydd
  • os codwch hynny i 60 munud o leiaf, bydd hyn yn eich helpu i golli pwysau ac i beidio â rhoi pwysau'n ôl ymlaen

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU