Mae ysmygu yn achosi nifer o afiechydon a phroblemau iechyd, rhai'n angheuol, i ysmygwyr a phobl sydd ddim yn ysmygu hefyd. O ganlyniad, mae ysmygu wedi'i wahardd mewn nifer gynyddol o fannau cyhoeddus ac mae amrywiol wasanaethau cefnogi wedi'u datblygu i helpu unigolion i roi'r gorau i ysmygu.
Mae llawer o ysmygwyr yn dweud eu bod wedi dechrau ysmygu cyn iddyn nhw fod yn 18 oed er, yn ôl y gyfraith, ni chaniateir gwerthu tybaco, sigaréts na phapur sigarét i bobl ifanc dan yr oedran hwnnw. Mae'n bwysig felly osgoi'r demtasiwn i ysmygu yn ifanc iawn er mwyn eich rhwystro rhag mynd i'r arfer.
Mae pobl yn rhoi'r gorau i ysmygu am sawl rheswm, o'r awydd i wella eu hiechyd ac i arbed arian, i eisiau denu rhywun o'r rhyw arall neu leihau'r posibilrwydd o beri niwed i iechyd rhywun arall
Yn y DU mae un person yn marw bob pedwar munud oherwydd afiechydon sy’n gysylltiedig ag ysmygu. Mae ysmygu yn achosi:
Gall hefyd waethygu anwydau, problemau'r frest ac alergeddau megis clwy'r gwair, broncitis ac emffysema, yn ogystal â chael sgil-effeithiau annymunol megis crychau ac anadl drwg. Gall ysmygu wneud i chi besychu, tisian neu deimlo'n fyr o wynt wrth i chi wneud ymarfer corff.
Myth yw dweud bod ysmygu yn eich helpu i golli pwysau, mewn gwirionedd, gall achosi llid yr isgroen (cellulite). A dyw cusanu rhywun sydd â cheg fel blwch llwch ddim yn rhywiol 'chwaith.
Cyfrifwch faint mae ysmygu yn ei gostio i chi'n ariannol ac efallai y cewch eich synnu o wybod faint allech chi ei arbed.
Gall anadlu mwg sigarét pobl eraill, a elwir yn fwg ail-law, hefyd achosi canser.
Ar 1 Gorffennaf 2007, daeth bron bob man cyhoeddus a man gwaith caeedig yn Lloegr yn ddi-fwg. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ‘Rheoliadau ysmygu yn Lloegr’.
Mae’r Alban wedi bod yn ddi-fwg ers 26 Mawrth 2006, Cymru ers 2 Ebrill 2007 a Gogledd Iwerddon ers 30 Ebrill 2007.
Pan nad yw grym ewyllys yn unig yn ddigon, ceir amrywiol driniaethau a digon o wasanaethau cefnogi i'ch helpu i roi'r gorau i'r arferiad.
Gwasanaethau Rhoi'r Gorau i Ysmygu'r GIG - mae ysmygwyr bedair gwaith yn fwy tebygol o roi'r gorau iddi drwy ddefnyddio NRT ynghyd â chael cefnogaeth gan Wasanaethau Rhoi'r Gorau i Ysmygu'r GIG - o'i gymharu â defnyddio grym ewyllys yn unig. Dewch o hyd i’r gwasanaeth agosaf atoch chi drwy:
Cynllun gan y llywodraeth yw'r rhaglen Together, yn Lloegr yn unig, sydd â'r nod o'ch helpu chi i roi'r gorau i ysmygu gan ddefnyddio ystod eang o ddeunyddiau cefnogi.
Mae Llinell Gymorth Ysmygu'r GIG (0800 169 0 169) yng Nghymru a Lloegr yn cynnig cyngor ymarferol yn rhad ac am ddim am roi'r gorau i ysmygu, yn ogystal â phecyn gwybodaeth am ddim. Yn yr Alban, mae Smokeline (0800 84 84 84) yn cynnig cyngor a chefnogaeth gyfrinachol am ddim.
Mae'r wefan 'Rhoi'r Gorau i Ysmygu' hefyd yn cynnig gwasanaeth i alluogi pobl yng Nghymru a Lloegr i holi arbenigwyr. Mae gwefan Smokeline yn cynnig gwasanaeth preifat a chyfrinachol tebyg yn yr Alban.