Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Chwaraeon a ffitrwydd

Gall pawb fwynhau chwaraeon heb orfod cystadlu, ac mae amrywiaeth eang o weithgareddau lleol y gall pobl, waeth pa mor heini, eu gwneud. Mae'ch iechyd yn elwa'n fawr o gymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd a gwneud mwy o ymarfer corff, ac fe allwch chi deimlo'n fwy egnïol ac yn fwy hyderus, yn ogystal â chael cryn foddhad ar yr un pryd.

Fyddech chi'n meddwl y byddai Joyce Heywood, yn 76 oed, am arafu ryw ychydig. Ond, ar ôl treulio 21 mlynedd yn mwynhau'r wefr o hwylfyrddio, nid yw'n bwriadu rhoi'r gorau i hynny.

"Rydw i wedi bod yn hwylfyrddio ers fy mod yn 55 oed," meddai. "Penderfynais roi cynnig arni ar ôl i'm gur ddechrau. Roedd waeth i mi ymuno ag ef mwy na sefyll ar y lan yn ei wylio."

Ymunodd Joyce a'i gŵr Dennis â'r Seavets, cymdeithas i bobl dros 35 oed sy'n mwynhau hwylfyrddio. Roedd Dennis yn cynhyrchu cylchlythyr rheolaidd tan ei farwolaeth bedair blynedd yn ôl. Serch hynny, mae Joyce yn dal i gystadlu mewn rasys ar draws Prydain. "Rydw i'n dal i rasio, er fy mod olaf gan amlaf," meddai'n gellweirus. "Does gen i ddim mo'r un stamina bellach, er fy mod yn mynd i'r gampfa unwaith yr wythnos i gadw'n heini."

Dywed Joyce fod ochr gymdeithasol y Seavets yn chwarae rhan bwysig yn ei chadw'n llawn egni. "Mae'n grêt cyfarfod â ffrindiau a gwneud rhywbeth yr ydych i gyd yn ei fwynhau," meddai. "Rydw i wastad yn ceisio annog pobl i ddal ati. Mae'n cadw'ch meddwl a'ch cyhyrau'n weithgar

Mwy o weithgarwch

Gallwch wella'ch lefel gweithgarwch dim ond drwy:

  • gerdded mwy yn hytrach na defnyddio'r car neu fynd ar fws
  • gwneud mwy o weithgarwch o gwmpas y cartref a'r ardd a'u gwneud gydag ychydig mwy o arddeliad corfforol a
  • dod yn gysylltiedig â gweithgarwch rheolaidd yr ydych yn ei fwynhau, megis dawnsio neu nofio

Ydy bod yn egnïol yn addas i fi?

Does dim rhaid i chi flino'ch hun yn lân yn y gampfa neu fod yn athletwr o safon Olympaidd i fod yn egnïol. Gallwch wella'ch iechyd drwy weithio tuag at wneud hanner awr o weithgarwch cymedrol bob diwrnod, megis cerdded yn gyflym. Dylech wneud gweithgareddau yr ydych yn eu mwynhau ac sy'n gallu bod yn rhan reolaidd o'ch bywyd.

Ceir nifer o wahanol weithgareddau hamdden a chwaraeon yn y rhan fwyaf o ardaloedd - edrychwch yn y llyfr ffôn lleol neu holwch eich cyngor neu yn y llyfrgell leol.

Cymdeithas Cadw'n Heini

Gallwch gael gwybodaeth am gadw'n heini ac iach gan y Gymdeithas Cadw'n Heini. Ffôn: 020 8692 9566.

Mwy am chwaraeon a ffitrwydd yng Nghymru a Lloegr

Os hoffech wybod mwy am y cyfleoedd chwaraeon a allai fod yn addas i chi, cysylltwch â Sport England neu Gyngor Chwaraeon Cymru. Gallant eich rhoi mewn cysylltiad â sefydliadau chwaraeon a phobl yn eich ardal sy'n gallu dweud wrthych am ddysgu, gwella a chymryd rhan mewn chwaraeon.

Sport England

Ffôn: 020 7273 1500

Cyngor Chwaraeon Cymru

Ffôn: 029 2030 0500

sportscotland

Gallwch gael gwybod mwy am gyfleoedd chwaraeon a allai fod yn addas i chi drwy sportscotland. Gallant eich rhoi mewn cysylltiad â sefydliadau chwaraeon a phobl yn eich ardal sy'n gallu dweud wrthych am ddysgu, gwella a chymryd rhan mewn chwaraeon.  Gallwch eu ffonio ar 0131 317 7200.

Cymdeithas Chwaraeon yr Alban

Gallwch gysylltu â Chymdeithas Chwaraeon yr Alban sy'n cynrychioli buddiannau dros 80 o gyrff llywodraethu a chymdeithasau chwaraeon a hamdden corfforol yn yr Alban. Gallwch eu ffonio ar 0131 339 8785.

Additional links

Ymunwch i iacháu eich hun!

Ymunwch â Change4Life – helpu pob teulu i fwyta’n iach, symud mwy a byw’n hirach

Allweddumynediad llywodraeth y DU