Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Hylendid bwyd

Dilynwch ein canllaw ar hylendid bwyd i osgoi gwenwyn bwyd

Mae miliynau o bobl yn y DU yn dioddef o wenwyn bwyd bob blwyddyn. Ond gellid atal sawl achos o wenwyn bwyd drwy ddilyn rhai awgrymiadau syml ynghylch hylendid bwyd.

Paratoi bwyd

Un o brif achosion gwenwyn bwyd yw bacteria'n lledaenu o un bwyd i fwyd arall. Gall hyn ddigwydd pan fydd bwyd amrwd yn dod i gysylltiad â bwyd sy'n barod i'w fwyta neu'n diferu arno, neu pan fydd byrddau torri bwyd, offer coginio a dwylo pobl yn cyffwrdd â bwyd amrwd. Er mwyn atal bacteria rhag lledaenu, cofiwch wneud y canlynol:

  • golchwch eich dwylo bob amser cyn paratoi bwyd ac ar ôl cyffwrdd bwyd amrwd, yn enwedig cig amrwd
  • paratowch fwyd amrwd a bwyd sy'n barod i'w fwyta ar wahân
  • os ydych wedi defnyddio cyllell neu fwrdd torri bwyd gyda chig amrwd, peidiwch â'u defnyddio ar gyfer bwyd sy'n barod i'w fwyta (megis ffrwyth, salad a bwyd wedi'i goginio) onid ydych wedi'u golchi'n drwyadl yn gyntaf
  • cadwch eich cadachau, llieiniau sychu llestri a llieiniau yn lân a'u newid yn aml

Coginio bwyd

Trwy goginio bwyd yn iawn, mae'r bacteria niweidiol yn cael eu lladd. Mae'n bwysig gwneud y canlynol:

  • dadmer cig a dofednod yn iawn cyn eu coginio
  • gwneud yn siŵr fod bwyd yn chwilboeth drwyddo cyn ei fwyta, hyd yn oed os ydych wedi dilyn rysáit neu gyfarwyddiadau coginio ar becyn
  • peidio ag ailgynhesu bwyd fwy nag unwaith a gwneud yn siŵr ei fod yn chwilboeth drwyddo cyn ei fwyta

 

Oeri bwyd

Rhaid cadw rhai mathau o fwydydd yn oer i'w cadw'n ddiogel, er enghraifft bwyd gyda dyddiad 'defnyddio erbyn' arno, bwyd yr ydych wedi'i goginio nad ydych am ei weini'n syth, neu fwydydd parod eraill megis saladau parod.

Cofiwch wneud y canlynol bob amser:

  • rhoi bwyd y mae angen ei oeri yn yr oergell yn syth
  • oeri bwyd sydd wedi'i goginio cyn gynted ag y bo modd a'i roi yn yr oergell wedyn
  • storio cig a dofednod amrwd mewn cynhwysydd gyda chaead arno ar waelod yr oergell fel nad yw'n cyffwrdd nac yn diferu ar fwyd sy'n barod i'w fwyta
  • peidio â gorlwytho'r oergell. Gall hyn atal aer oer rhag cylchdroi, a allai arwain at gynhesu'r bwydydd yn ormodol

Byddwch yn fwy gofalus byth

Os ydych yn paratoi bwyd ar gyfer yr henoed, babis, plantos, merched beichiog neu rywun sy'n sâl, peidiwch â rhoi wyau lle mae'r melynwy'n feddal iddynt, na bwyd sy'n cynnwys wyau na fydd yn cael ei goginio, er enghraifft mayonnaise cartref a rhai mathau o hufen iâ, mousse neu eisin. Y rheswm am hyn yw y gall wyau gynnwys bacteria niweidiol. Wrth baratoi wyau ar gyfer y bobl hyn, dylech eu coginio hyd nes y bo'r gwynwy a'r melynwy'n galed.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU