Mae'n bwysig eich bod yn gofalu am eich iechyd rhywiol, ac os oes gennych chi blant, mae tystiolaeth wedi profi bod siarad â nhw am ryw a chynnal perthynas yn syniad da. Mae pobl ifanc sy'n siarad yn agored am ryw â'u rhieni yn dueddol o beidio â bod yn fyrbwyll cyn cael rhyw ac maent yn fwy tebygol o ddefnyddio dulliau atal cenhedlu pan fônt yn penderfynu gwneud hynny.
Rhaid i ddynion a merched, ill dau, ofalu am eu hiechyd rhywiol gan gymryd munud i feddwl am faterion yn ymwneud ag atal cenhedlu a heintiadau a drosglwyddir trwy ryw (STIs).
Er enghraifft, gallech fod yn cario rhai clefydau, fel clamydia, yn ddiarwybod heb gael unrhyw symptomau. Gall yr haint effeithio ar ffrwythlondeb, felly mae'n bwysig eich bod yn manteisio ar y gwasanaethau iechyd rhywiol sydd ar gael am ddim dan y GIG.
I gael gwybod mwy, ewch i wefan NHS Choices i weld erthyglau, fideos a gwybodaeth am iechyd rhywiol. Gallwch gwblhau cwis bychan i weld a yw eich bywyd rhywiol yn peri risg i'ch iechyd, a gallwch ddod o hyd i wasanaethau a chlinigau yn eich ardal (yn Lloegr) gan gynnwys dulliau atal cenhedlu, dulliau atal cenhedlu brys a phrofion am heintiau.
Mae gwefan NHS Direct yn ateb cwestiynau cyffredin ynghylch iechyd rhywiol, am faterion sy'n amrywio o atal cenhedlu a phrofion ceg y groth, i STIs a therapi rhyw.
Gallwch hefyd siarad â'ch meddyg neu nyrs yn eich meddygfa neu glinig cynllunio teulu. Mae meddygfeydd yn cynnal sesiynau cynlluniau teulu neu glinigau ar gyfer pobl ifanc yn aml - diben y sesiynau hyn yw creu awyrgylch lle gall pobl siarad yn blaen ac yn agored am faterion yn ymwneud â rhyw a pherthynas.
Dyma'r ffordd orau o ddechrau siarad am ryw:
Ffoniwch Parentline Plus am ddim ar 0808 800 2222 i siarad yn gyfrinachol. Mae gwasanaeth ffôn testun di-dâl ar gael hefyd ar 0800 783 6783 ar gyfer pobl gyda nam ar eu clyw neu ar eu lleferydd.
Gall fpa (y Gymdeithas Cynllunio Teulu, yn flaenorol) ddarparu gwybodaeth a chyngor. Rhif ffôn y llinell gymorth yw 0845 122 8690.
I gael cyngor am ryw, perthnasau ac atal cenhedlu, gall pobl ifanc o dan 18 oed ffonio Sexwise ar 0800 28 29 30. Mae ffôn testun ar gael ar gyfer pobl gyda nam ar eu clyw ar 0800 328 1651. Mae'r galwadau'n gyfrinachol ac am ddim o linellau ffôn cartref.
Gall pobl ifanc ddod o hyd i fwy o wybodaeth drwy ddefnyddio'r dolenni isod.