Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Bwyta'n iach

Nid yw bwyta’n iach yn anodd ac mae’n talu ar ei ganfed.

Pam fod bwyta'n iach yn bwysig?

Os ydych yn oedolyn, gall bwyta'n iach eich helpu i reoli'ch pwysau a gall wneud i chi deimlo'n well yn gyffredinol. Gall hefyd leihau'r risg o ddatblygu salwch neu glefyd difrifol.

I blant, bydd bwyta'r cydbwysedd cywir o fwyd yn rhoi'r holl faetholion y bydd eu hangen arnynt i dyfu a datblygu'n iach. Mae dysgu plant i fwyta'n iach hefyd yn helpu a gall leihau'r risg o glefydau difrifol yn ddiweddarach mewn bywyd

Beth ydy deiet iach?

Mae deiet iach yn cynnwys:

  • digon o fwydydd starts megis bara, reis, pasta, grawnfwydydd brecwast, tatws, iams a thatws melys - chwiliwch am fathau sy'n uwch mewn ffibr lle bo modd (fel pasta neu fara blawd cyflawn)
  • o leiaf pum darn o ffrwyth a llysiau amrywiol yn ddyddiol
  • meintiau cymedrol o gynnyrch llaeth (neu gynnyrch amgen) - chwiliwch am fersiynau isel mewn braster lle bo modd
  • meintiau cymedrol o gig, pysgod neu gynnyrch amgen megis wyau, ffa, pys a ffacbys - chwiliwch am fathau sy'n cynnwys llai o fraster lle bo modd
  • ambell i ddanteithfwyd (dylid bod yn gymedrol wrth fwyta bwydydd sy'n uwch mewn braster, halen neu siwgr ychwanegol)
  • ychydig o halen - darllenwch y label bob tro

Gallwch gymryd cwis ar wefan NHS Choices i gael gwybod a ydych chi'n bwyta'n iach neu a allech chi wella eich deiet.

Deiet iach i fabanod a phlant

Un o'r ffyrdd gorau o annog eich plentyn i ddatblygu arferion bwyta iach yw bwyta'n iach eich hun.

Does dim rhaid i fwyta'n iach fod yn ddrud. Yn wir, gall fod yn rhatach seilio prydau ar fwydydd starts a ffrwyth a llysiau, a cheisio bwyta llai o fraster, halen a siwgr ychwanegol.

Mae gofynion deietegol babanod a phlant dan bump oed yn wahanol. I gael mwy o wybodaeth, dilynwch y dolenni isod.

Additional links

Ymunwch i iacháu eich hun!

Ymunwch â Change4Life – helpu pob teulu i fwyta’n iach, symud mwy a byw’n hirach

Allweddumynediad llywodraeth y DU