Gallwch wella'ch ffitrwydd drwy dreulio 30 munud y diwrnod ar weithgarwch corfforol megis garddio, nofio, neu gerdded. Mae'n hawdd hefyd i chi ddod o hyd i gyfleusterau hamdden lleol lle gallwch chi fynd i gymryd rhan mewn chwaraeon megis tenis, sboncen, neu ddosbarthiadau cadw'n heini ac mae gwybodaeth ar gael hefyd am ddigwyddiadau chwaraeon lleol a chenedlaethol.
Wrth dreulio 30 munud y diwrnod yn gwneud ymarfer corff, byddwch yn teimlo'r lles y mae'n ei wneud yn gyflym iawn oherwydd bod ymarfer yn helpu gyda'r canlynol:
Os byddwch chi'n ymarfer yn rheolaidd dros gyfnod hir, yna mae llai o risg i chi wynebu problemau iechyd, er enghraifft, clefyd y galon, canser, osteoporosis, pwysedd gwaed uchel a llawer o gyflyrau eraill.
Gallwch chwilio am ystod eang o gyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ar NHS Choices neu wefan Active Places. Gallwch ddod o hyd i’ch cyfleusterau agosaf yn ôl cod-post neu enw lle, pori drwy fap rhyngweithiol o'r wlad, chwilio am gyfleusterau yn eich ardal leol neu ddefnyddio enw cyfleuster penodol i gael mwy o wybodaeth.
Mae canolfannau hamdden hefyd yn cynnig amrywiaeth o chwaraeon, gan gynnwys sboncen, tenis, dosbarthiadau cadw'n heini a nofio. Cysylltwch â'ch cyngor lleol i gael gwybod ble mae'ch canolfan hamdden agosaf. Dylai eich cyngor hefyd allu rhoi manylion clybiau chwaraeon lleol i chi.
Mae rhai cynghorau lleol yn darparu tocynnau hamdden er mwyn i'r trigolion allu defnyddio'r cyfleusterau am bris llai. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'ch cyngor lleol.