Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Annwyd a pheswch

Bydd llawer o bobl yn cael annwyd yn ystod misoedd y gaeaf, ond os ydych chi'n iach ac yn heini mae'n annhebygol o fod yn ddifrifol, ac mae'n debygol y gwnewch wella heb orfod cael gwrthfiotigau. Bydd poenladdwyr yn aml yn ddefnyddiol wrth leddfu symptomau annwyd a pheswch, a gellir cael y rhain o fferyllfa.

Ei ddal, ei waredu, ei ladd

Firysau sy'n achosi annwyd a pheswch, ac mae'n hawdd eu dal. Pan fyddwch yn pesychu neu'n tisian byddwch yn tasgu diferion bychain o boer i'r aer.

Dyma'r ffordd orau o beidio â lledaenu germau:

  • cariwch hances gyda chi bob amser
  • gorchuddiwch eich trwyn a'ch ceg â hances bob tro y byddwch yn pesychu neu'n tisian
  • unwaith yn unig y dylech ddefnyddio hances bapur, taflwch hi i'r bin wedyn
  • golchwch/glanhewch eich dwylo'n rheolaidd, ac mor fuan â phosib ar ôl tisian neu besychu

Helpu eich hun i deimlo'n well

Gallwch gymryd rhai camau i leddfu effeithiau ffliw ac annwyd y gaeaf:

  • cadwch yn gynnes – mae'n well defnyddio llawer o haenau tenau
  • cymerwch y ddogn a argymhellir o baracetamol neu ibuprofen er mwyn lleddfu unrhyw ddolur neu boen ac i gadw'ch tymheredd yn isel
  • gwnewch yn siŵr eich bod yn yfed digon o hylif: yfwch lai o ddiodydd sy'n cynnwys caffein, fel te, coffi a diodydd cola, ac yfwch fwy o sudd ffrwythau heb siwgr, dŵr a the perlysiau

Rhoi hwb i'ch system imiwnedd

Mae'ch system imiwnedd yn eich helpu i ymladd feirysau. I helpu'ch system imiwnedd:

  • bwytewch fwy o ffrwythau, llysiau a bwydydd grawn cyflawn: maent yn cynnwys fitaminau a mineralau
  • dylech osgoi ysmygu (a pheidiwch â defnyddio cyffuriau afraid) – bydd y ddau'n rhwystro'ch system imiwnedd rhag gweithio'n iawn
  • gwnewch ymarfer corff am 30 munud bob dydd – does dim rhaid iddo fod yn anodd, mae unrhyw beth sy'n gwneud i chi chwysu ac yn eich gadael allan o wynt yn cyfri

Eich fferyllfa leol

Mae llawer o feddyginiaethau ar gael yn eich fferyllfa leol. Dylech ddilyn cyngor fferyllydd os ydych chi eisoes yn cymryd poenladdwyr neu unrhyw foddion eraill.

Mynd i weld eich meddyg

Dim ond dan yr amgylchiadau canlynol y mae angen i chi weld eich meddyg:

  • mae eich annwyd ac/neu eich peswch yn para mwy na tair wythnos
  • rydych yn sylwi eich bod yn fyr o wynt
  • rydych chi'n cael poen yn eich brest neu mae gennych eisoes gyflwr ar y frest
  • mae gennych gyflwr arall sydd wedi gwaethygu tra'ch bod wedi bod yn dioddef o'r annwyd neu'r ffliw

Annwyd a pheswch yn ystod beichiogrwydd

Yn ogystal â'r wybodaeth uchod, mae'n bwysig bod menywod beichiog:

  • yn ceisio atal eu tymheredd rhag codi: yn defnyddio paracetamol neu'n cael cawod er mwyn oeri
  • yn gwneud yn siŵr eu bod yn gorffwys digon
  • yn siarad â'r fferyllydd cyn cymryd triniaeth 'dros-y-cownter' ar gyfer annwyd a ffliw – nid ydynt bob amser yn addas ar gyfer menywod beichiog

Mwy o ddolenni defnyddiol

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU