Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Ffliw tymhorol

Salwch a achosir gan y firws influenza yw'r ffliw - mae'n glefyd heintus sy'n ymgartrefu ym mhibellau gwynt uchaf y corff ac mae'n gallu lledaenu'n rhwydd o un person i'r llall. Mae achosion o'r ffliw tymhorol yn dilyn patrwm arferol y tymhorau ac maent yn ymddangos yn flynyddol, fel arfer yn y gaeaf. Yn wahanol i'r ffliw pandemig, gallwch gael brechiad i warchod eich hun rhag y ffliw tymhorol.

Adnabod symptomau'r ffliw

Os oes gennych chi'r ffliw, mae'n debyg iawn y byddwch yn datblygu'r symptomau canlynol:

  • twymyn sydyn, gyda thymheredd uchel (fel arfer dros 38°C/100°F)
  • oerfel
  • cur pen difrifol
  • cur a phoenau yn y cyhyrau
  • teimlo'n wan ac yn flinedig
  • peswch sych
  • dolur gwddf

Gwarchod eich hun rhag y ffliw

Gall unrhyw un gael y ffliw, ond gall fod yn fwy peryglus i rai pobl, megis plant ifanc, pobl hŷn a'r rheiny gyda chyflyrau iechyd difrifol.

Gallwch gael brechiad, neu bigiad ffliw, i'ch gwarchod os ydych chi'n disgyn i un o'r grwpiau risg clinigol a ddisgrifir isod.

Bydd rhaid i chi gael y brechiad hwn yn flynyddol oherwydd bod y firysau sy'n achosi'r ffliw yn newid bob blwyddyn. Fodd bynnag, ni fydd yn eich gwarchod rhag y ffliw adar na'r ffliw pandemig.

Pwy ddylai gael brechiad?

Yn yr hydref, o fis Hydref, mae'r GIG yn rhoi brechiad ffliw am ddim i bawb dros 65 oed, neu i bawb sy'n disgyn i'r grwpiau risg clinigol canlynol (gan gynnwys plant dros chwe mis oed):

  • pobl â chlefyd y galon difrifol
  • pobl â chlefyd difrifol ar yr ysgyfaint, megis asthma, broncitis, ffibrosis cystig neu emffysema
  • pobl â chlefyd difrifol ar yr arennau neu'r afu/iau
  • pobl â phroblem iechyd hirdymor, megis diabetes
  • pobl â system imiwnedd wan - ee yn sgîl cemotherapi, radiotherapi, triniaeth steroidau neu HIV/Aids

Os ydych yn byw mewn cartref gofal/nyrsio neu lety preswyl hirdymor tebyg, dylech siarad â'ch nyrs neu'r rheolwr am gael brechiad ffliw. Dylai gweithwyr iechyd proffesiynol sy'n gweithio'n uniongyrchol ym maes gofalu am gleifion gael eu brechu hefyd.

Hefyd, os mai chi yw prif ofalwr person hŷn neu anabl, yna dylech ofyn i'ch Meddyg Teulu a ddylech chi gael brechiad fel y gallwch barhau i ofalu amdanynt.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU