Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Ffliw pandemig

Mae'r ffliw, sy'n salwch heintus a achosir gan y firws influenza, yn effeithio ar y system resbiradol yn bennaf. Os bydd firws ffliw newydd yn ymddangos ac mai ychydig iawn o bobl fydd yn gallu ei wrthsefyll, yna gallai hyn achosi pandemig neu epidemig byd-eang - sy'n arwain at fwy o salwch difrifol a marwolaethau o'i gymharu â ffliw tymhorol.

Beth yw ffliw pandemig?

Pandemig yw clefyd epidemig sy'n lledaenu'n gyflym ac sy'n effeithio ar y rhan fwyaf o wledydd ac ardaloedd y byd. Mae symptomau ffliw pandemig yn debyg iawn i symptomau ffliw tymhorol cyffredin sy'n ymddangos bob gaeaf, ond fel arfer maent yn fwy difrifol.

Gwelir pandemig pan ymddengys firws sy'n wahanol iawn i'r rhywogaethau o firws sydd wedi bod o gwmpas o'r blaen. Mae hyn yn golygu nad oes llawer o bobl, os o gwbl, yn gallu ei wrthsefyll. Mae hyn yn gadael iddo ledaenu'n eang ac yn gyflym gan effeithio ar gannoedd ar filoedd o bobl. Gan ei fod yn firws newydd, nid yw'n bosib cynhyrchu brechiad i warchod pobl yn ei erbyn o flaen llaw. Mae arbenigwyr yn amcangyfrif y gallai hyd at chwarter poblogaeth y DU gael eu taro'n sâl o ganlyniad i ffliw pandemig, ac y byddai llawer o'r lleill yn ei ddal ond heb i'r symptomau'n datblygu.

Pam fod ffliw pandemig yn achos pryder

Mae ffliwiau pandemig wedi ymddangos o bryd i'w gilydd ers cyn cof. Yn y ganrif ddiwethaf, cafwyd ffliw pandemig ym 1918, 1957 a 1968. Bu farw miliynau o bobl ar draws y byd. Mae arbenigwyr yn rhagweld y bydd ffliw pandemig yn ein taro cyn bo hir, ond nid ydynt yn gwybod pryd.

Mae pryderon wedi dwysáu yn ddiweddar yn sgîl lledaeniad y ffliw adar H5N1. Er nad yw'r ffliw adar yn union yr un peth â ffliw pandemig, mae'r firws wedi meithrin y gallu i neidio o un rhywogaeth i'r llall gan achosi salwch difrifol ymysg pobl. Nid yw'n gallu heintio pobl yn rhwydd, ond, mae arbenigwyr yn poeni os bydd y firws influenza adar yn cymysgu â firws ffliw dynol, yna gallai hyn greu firws ffliw newydd a allai, o bosib, achosi pandemig.

Paratoi ar gyfer pandemig ffliw dynol

Mae'r DU yn cymryd bygythiad pandemig ffliw dynol yn ddifrifol iawn ac wedi cyhoeddi cynllun wrth gefn. Mae'r cynllun yn nodi'r mesurau sy'n cael eu cymryd i baratoi'r DU am bandemig yn y dyfodol, gan gynnwys:

  • cadw cyflenwad mawr wrth gefn o gyffuriau gwrth-firysol, megis Tamiflu, a all helpu i leddfu'r symptomau (ni fydd cyffuriau gwrth-firysol yn eich gwarchod rhag dal y ffliw, ond gall y cyfnod y byddwch yn sâl fod rhyw ddiwrnod yn llai ac ni fydd cymaint o risg o gymhlethdodau difrifol)
  • mae'r Adran Iechyd yn gwahodd gwneuthurwyr i gyflwyno tendr am gontract i gyflenwi brechiad ffliw pandemig unwaith y gwyddys yn union pa fath o bandemig ydyw, er mae'n debygol y bydd sawl mis yn mynd heibio cyn y bydd y brechiad ar gael
  • mae'r Adran Iechyd hefyd yn prynu oddeutu 2.5 miliwn dôs gwahanol a gaiff eu defnyddio i wneud rhagor o ymchwil ac, o bosib, i frechu gweithwyr gofal iechyd rheng flaen cyn y gellid datblygu brechiad pandemig penodol
  • llunio canllawiau i awdurdodau lleol a gwasanaethau iechyd er mwyn eu helpu i baratoi ar gyfer pandemig ffliw dynol

Beth i’w wneud os oes pandemig ffliw dynol

Os yw Sefydliad Iechyd y Byd yn cyhoeddi bod yna bandemig, yna byddwch yn cael mwy o wybodaeth am yr hyn y gallwch ei wneud i leihau'r perygl o ddal y ffliw a beth ddylech ei wneud os cewch eich taro'n sâl.

Mae prif ymgynghorydd Llywodraeth y DU ar faterion iechyd - y Prif Swyddog Meddygol - wedi cyhoeddi gwybodaeth i chi a'ch teulu am yr hyn i'w wneud os oes pandemig ffliw dynol yn ymddangos.

Gallwch leihau'r risg (ond nid ei leihau'n llwyr) o ddal neu ledaenu'r ffliw yn ystod pandemig drwy ddilyn y camau canlynol:

  • gorchuddio'ch trwyn a'ch ceg wrth beswch neu disian, gan ddefnyddio hances os yn bosib
  • taflu hancesi budr yn syth a gwneud hynny'n ofalus
  • osgoi teithio diangen a thyrfaoedd mawr lle bo hynny'n bosib
  • cynnal hylendid syml da, gan olchi'ch dwylo'n rheolaidd yn arbennig
  • glanhau arwynebau caled yn aml

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU