Clefyd ymhlith adar yn bennaf yw'r ffliw adar. Mae sawl math gwahanol o ffliw adar, ond yr un sy'n achosi pryder ar y foment yw H5N1, sy'n ffurf ffyrnig (neu hynod bathogenig) o'r ffliw.
Clefyd sy'n effeithio ar adar yn bennaf yw'r ffliw adar. O ran heintio pobl - nid yw'r firws yn croesi o adar i bobl yn hawdd iawn.
Mewn theori, gallai firysau ffliw gymysgu os bydd pobl sy'n dioddef o ffliw tymhorol yn cael eu heintio gyda'r ffliw adar. Os yw firws ffliw wedi troi'n straen newydd sy'n gallu lledaenu'n hawdd ymhlith pobl - straen nad oes ganddynt imiwnedd iddo - gallai hyn achosi ffliw Pandemig.
Mae'r risg i berson ddal ffliw adar yn hynod o isel. Ers mis Rhagfyr 2003, mae 335 o achosion o'r ffliw adar mewn pobl wedi'u cadarnhau mewn 12 o wledydd (gan arwain at 206 o farwolaethau), hyd at 12 Tachwedd 2007.
Mae'r ffliw adar yn lledaenu ymhlith rhywogaethau o adar, ac o adar i anifeiliaid eraill, drwy lyncu neu anadlu'r firws.
Gall pob aderyn gael y ffliw adar. Adar gwyllt yw'r rhai mwyaf tebygol o gario'r firws (heb ddangos unrhyw symptomau) a dofednod domestig sydd fwyaf agored i niwed. Ar gyfartaledd, mae'r ffliw adar yn heintus am dri i bump o ddiwrnodau, ond gall fod yn heintus am hyd at 30 diwrnod.
Gall y firws gael ei ledaenu gan adar sy'n ymfudo, wrth i bobl sydd wedi'u heintio â'r firws symud o le i le, a thrwy'r fasnach mewn adar byw.
Nid yw Sefydliad Iechyd y Byd ar hyn o bryd yn argymell cyfyngiadau teithio i unrhyw wlad sydd wedi cael eu taro gan y ffliw adar. Serch hynny, os ydych chi'n ymweld â gwledydd gydag adroddiadau wedi'u cadarnhau o ffliw adar H5N1 mewn dofednod, dylech lynu wrth y mesurau canlynol:
Mae symptomau ffliw adar mewn pobl yn debyg iawn i symptomau ffliw cyffredin ac fe allant ymddangos yn sydyn iawn. Gallai'r rhain gynnwys:
Hyd yn oed os ydych chi'n profi'r symptomau hyn, mae'n annhebygol iawn bod gennych ffliw adar oni bai eich bod wedi cael cyswllt agos gyda dofednod byw neu farw mewn gwlad lle cafwyd achos o'r haint.
Mae gan y DU gynllun rheoli cadarn, sydd wedi'i brofi i fynd i'r afael ag epidemig ffliw adar mewn adar. Amlinellir hyn yn y Cynllun Wrth Gefn Generig i ymdrin â Chlefydau Anifeiliaid Egsotig, sydd ar gael ar wefan Defra.
Dyma'r mesurau a gymerwyd:
Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig wedi datgan mai'r ffordd gyflymaf a'r mwyaf effeithiol o gael gwared â'r clefyd yw:
Ar wefan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ceir gwybodaeth sy'n berthnasol i ffermydd adar, ac i'r sawl sy'n cadw adar fel anifeiliaid anwes neu at ddibenion eraill, yn ogystal â gwybodaeth am ei rhaglen ar gyfer cadw golwg am y ffliw adar ymysg adar gwyllt.