Gall unrhyw un ddioddef anhwylder bwyta ond pobl ifanc sydd fwyaf mewn perygl. Er bod symptomau’n amrywio o ran math a difrifoldeb, mae 'na bethau y gallwch chi gadw llygad arnynt. Os ydych chi'n credu eich bod chi neu rywun arall yn dioddef anhwylder bwyta, holwch am gymorth a chefnogaeth.
Yn aml, mae anhwylderau bwyta megis anorexia nervosa (a nodweddir gan y person yn osgoi bwyd) neu bulimia nervosa (a nodweddir fel arfer gan y person yn ymprydio, bwyta'n ormodol a chwydu) yn arwydd allanol o ofid mewnol. Dyma'r ffordd y mae rhai pobl - gan gynnwys plant - yn ymdopi gyda phob math o broblemau, gan gynnwys:
Mae anhwylderau bwyta hefyd yn gysylltiedig ag iselder a chamddefnyddio cyffuriau er, mewn rhai pobl ifanc, nid yw'r rhesymau dros ddatblygu anhwylder bwyta yn glir o gwbl.
Gall unrhyw un ddatblygu anhwylder bwyta. Fe'i gwelir gan fwyaf mewn merched ifanc rhwng 15 a 25 oed, er ei fod yn effeithio ar ddynion ifanc hefyd.
Gall cyfuniad o'r symptomau canlynol ddangos bod gan rywun anhwylder bwyta:
Os ydych chi'n credu bod gennych chi, neu rywun rydych chi'n ei nabod, anhwylder bwyta yna mae'n bwysig mynd i weld y meddyg teulu. O'u gadael heb eu trin, gall problemau bwyta effeithio'n ddifrifol ar eich iechyd. Mae cymorth arbenigol ar gael ar gyfer unigolion priodol.
Ar wefan NHS Choices gallwch gael gwybod mwy am anhwylderau bwyta, sut y cânt eu trin, a beth allwch chi ei wneud i helpu ffrind neu berthynas.
Mae'r Gymdeithas Anhwylderau Bwyta, a elwir yn ‘beat’ bellach, yn darparu sawl llinell gymorth a gwasanaeth e-bost. Gallwch weld manylion y gwasanaethau hyn ar eu gwefan.