Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Strôcs

Dewch i wybod beth sy'n achosi strôcs a beth allwch chi ei wneud i leihau'r perygl o gael strôc, beth i'w wneud os byddwch yn dioddef o strôc fach neu strôc fawr, a lle i gael cymorth a chyngor.

Beth yw strôc?

Bydd strôc yn digwydd pan derfir ar lif y gwaed i'ch ymennydd, gan achosi i gelloedd yr ymennydd farw oherwydd diffyg ocsigen. Dyma'r ddau brif fath o strôc:

  • strôc isgemig - mae hwn yn gyfrifol am 80 y cant o strôcs, ac mae'n digwydd pan fydd pibell waed i'r ymennydd yn cael ei flocio gan geulad
  • strôc waedlifol e.e. gwaedlif ar yr ymennydd - mae hwn yn fwy tebygol os oes gennych bwysedd gwaed uchel, ac mae'n digwydd pan fydd pibell waed yn byrstio gan achosi i waed lifo i'r ymennydd

Canfod a ydych mewn perygl

Rydych mewn mwy o berygl os ydych chi:

  • yn hŷn
  • yn ddyn
  • â rhywun yn eich teulu agos wedi cael strôc
  • yn Asiaidd, yn Affricanaidd, neu’n Affricanaidd-Caribïaidd

Rydych mewn perygl os ydych yn dioddef o'r canlynol, neu wedi dioddef ohonynt:

  • pwysedd gwaed uchel
  • diabetes
  • clefyd ar y galon - o'ch geni, calon rhy fawr neu afiechyd ar falfiau'r galon
  • curiad calon afreolaidd (ffibriliad atrïaidd)
  • clefyd yn y gwaed
  • anaemia'r crymangelloedd
  • strôc fach

Efallai eich bod mewn perygl os ydych chi:

  • yn ysmygu
  • yn yfed gormod o alcohol
  • yn bwyta llawer o fraster anifail dirlawn megis hufen, pwdinau a sawsiau brasterog
  • yn gwneud llai na 30 munud o ymarfer corff bum gwaith yr wythnos
  • yn cymryd cyffuriau anghyfreithlon megis cocên neu heroin - hyd yn oed os mai blynyddoedd yn ôl y gwnaethoch eu cymryd

Mae'n llai cyffredin i bobl ifanc gael strôc, fodd bynnag, os ydych chi dros bwysau, ac oes gennych chi ddiabetes, pwysedd gwaed uchel a cholesterol uchel, byddwch mewn perygl difrifol o gael strôc.

Helpu i atal strôc

Gallwch leihau'r perygl o gael strôc drwy wneud y canlynol:

  • bwyta o leiaf pum dogn amrywiol o ffrwythau a llysiau bob dydd
  • bwyta llai o halen
  • ymarfer yn rheolaidd
  • peidio yfed mwy o alcohol na'r hyn a argymhellir
  • rhoi'r gorau i ysmygu
  • cymryd aspirin bob dydd os oes gennych chi ddiabetes
  • profi eich pwysedd gwaed yn rheolaidd

Mae'n bwysig eich bod yn gwirio unrhyw feddyginiaeth y gallai fod ei hangen arnoch gyda'ch meddyg teulu. Er enghraifft, os oes angen, efallai y bydd yn briodol i'ch meddyg teulu roi presgripsiwn i chi am y canlynol:

  • meddyginiaeth i leihau pwysedd gwaed neu feddyginiaethau presgripsiwn eraill
  • triniaeth wrthgeulol (teneuo gwaed) os oes gennych chi ffibriliad artrïaidd

Gweld meddyg ar ôl strôc fach

Os byddwch chi'n cael strôc fach, neu drawiad isgemig byrbarhaol, mae'n bwysig eich bod yn mynd at feddyg. Er mai trawiadau dros dro ydynt - weithiau'n para am ychydig funudau'n unig gyda'r symptomau'n diflannu o fewn 24 awr - maent yn aml yn rhybudd y gallwch gael strôc fawr. Fodd bynnag, mae triniaethau i atal hynny rhag digwydd.

Ewch i weld eich meddyg teulu cyn gynted â phosib a gofynnwch am gael eich cyfeirio at wasanaeth arbenigol ar gyfer y strôc - dylai hyn ddigwydd o fewn saith niwrnod.

Symptomau strôc

Y symptomau mwyaf cyffredin i gadw llygad amdanynt yw golwg aneglur, lleferydd aneglur neu gyhyrau gwan pan oeddech fel arall yn teimlo'n iawn.

Mae strôc fawr o hyd yn rhywbeth sy'n digwydd yn sydyn a gall gynnwys y canlynol:

  • diffyg teimlad neu wendid yn eich wyneb, eich braich, eich llaw neu'ch coes ar un ochr o'ch corff yn unig
  • dryswch neu anhawster yn siarad neu'n deall beth mae rhywun yn ei ddweud
  • golwg yn pylu, yn aneglur neu wedi ei golli yn un llygad neu'r ddwy
  • trafferth yn cerdded a phendro
  • colli cydbwysedd neu gydlyniad
  • cur pen difrifol, chwydu'n sydyn neu syrthio'n anymwybodol

Gall Prawf Wyneb-Braich-Lleferydd (FAST) y Gymdeithas Strôc eich helpu os ydych chi'n ansicr a ydy rhywun wedi cael strôc ai peidio.

Os byddwch chi neu rywun arall yn cael strôc

Mae strôc yn argyfwng meddygol a dylech weithredu ar unwaith gan fod triniaeth gynnar yn hanfodol:

  • deialwch 999
  • ewch i uned ddamweiniau ysbyty

Effeithiau strôc

Gall strôc arwain at farwolaeth, neu gan amlaf gall adael dioddefwyr gydag anabledd sy'n golygu bod ganddynt anawsterau wrth siarad, wrth gerdded ac wrth gyflawni tasgau sylfaenol eraill. Gall ymateb yn sydyn olygu y gellir defnyddio triniaethau a all leihau effeithiau'r strôc.

Derbyn triniaeth

Dylid gwneud sgan tomograffeg gyfrifiadurol (CT) o fewn 24 awr ar ôl cyrraedd yr ysbyty er mwyn pennu a yw'r strôc yn isgemig neu'n waedlifol.

  • strôc isgemig - efallai y byddwch yn cael cyffuriau i deneuo'r gwaed neu i gael gwared â cheuladau a/neu yn derbyn triniaeth endarterectomi carotid; mewn achosion difrifol, mae'n bosib y byddwch yn derbyn llawdriniaeth neu feddyginiaethau brys ar gyfer chwydd ar yr ymennydd
  • strôc waedlifol - mae llai o driniaethau ar gael ar gyfer y math hwn o strôc, ond os yw'n gysylltiedig â phwysedd gwaed uchel, fe gewch chi feddyginiaethau priodol ar gyfer hynny

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU