Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Diabetes

Mae diabetes - cyflwr sy'n golygu bod lefel glwcos (siwgr) eich gwaed yn uwch na'r arfer - yn dod yn fwyfwy cyffredin, yn enwedig ymysg plant. Mae dros ddwy filiwn o bobl yn y DU wedi cael eu diagnosio gyda'r cyflwr, ond mae'n bosib bod miliwn o bobl eraill yn dioddef ohono heb wybod hynny.

Deall diabetes

Mae chwarren bancreas iach yn cynhyrchu hormon o'r enw inswlin. Mae'r corff yn defnyddio'r inswlin hwn i drosglwyddo glwcos i'n celloedd i greu egni. Gyda diabetes, mae diffyg inswlin yn y corff yn golygu na all ddefnyddio'r glwcos ac felly mae'n ceisio dod o hyd i ffynonellau eraill o egni. Golyga hyn fod gan ddioddefwyr diabetes lefelau uchel o glwcos yn eu gwaed.

Ceir dau brif fath o ddiabetes - math 1 a math 2.

Math 1

Mae'r math hwn (a elwid gynt yn ddiabetes inswlin-ddibynnol) yn cael ei achosi gan y corff yn cynhyrchu ychydig iawn neu ddim inswlin. Bydd fel arfer yn datblygu mewn:

  • plant
  • pobl ifanc

Math 2

Mae'r math hwn (a elwid gynt yn ddiabetes nad yw'n inswlin-ddibynnol) yn cael ei achosi pan na fydd y corff yn cynhyrchu digon o inswlin a phan fydd yn methu â'i ddefnyddio'n effeithiol. Fel arfer, mae'n gysylltiedig â geneteg a ffordd o fyw ac yn aml nid oes ganddo brin ddim symptomau yn y cychwyn. Mae'n tueddu i effeithio ar y canlynol:

  • pobl dros 40
  • pobl sydd dros bwysau ac sydd ddim yn gorfforol weithgar
  • mae'n effeithio fwy a mwy ar bobl iau
  • rhai o gefndir Asiaidd

Mathau eraill

  • diabetes beichiogi - sy'n effeithio ar rai merched beichiog
  • diabetes eilaidd - a achosir gan gyflyrau eraill neu gan rai meddyginiaethau megis steroidau

Adnabod y symptomau

Ar gyfer diabetes Math 1 cadwch olwg am y chwe symptom canlynol:

  • teimlo'n sychedig drwy'r amser
  • golwg aneglur
  • angen pasio dŵr yn aml
  • blinder mawr
  • colli pwysau (yn enwedig gyda diabetes Math 1)
  • cosi, yn enwedig o amgylch yr organau cenhedlu

Nid yw symptomau Math 2 mor amlwg bob tro, ond os ydych chi mewn perygl gellir mesur lefel eich glwcos gyda sampl gwaed. Mewn profion glwcos a gynhelir ar hap, cymerir samplau gwaed ddwywaith, ar adegau gwahanol. Ceir hefyd prawf glwcos ympryd, sef pan fesurir eich lefel ar ôl ymprydio dros nos. Os na fydd y diagnosis yn glir o'r profion hyn, efallai y cewch brawf goddefiad glwcos. Byddwch yn rhoi sampl gwaed, yn yfed diod glwcos, yna'n rhoi sampl arall ddwy awr yn hwyrach, a dadansoddir y canlyniadau.

Lleihau'ch perygl o gael diabetes

  • os ydych chi’n ysmygu, rhowch y gorau iddi
  • cymerwch brawf pwysedd gwaed, a derbyniwch driniaeth os yw'n uchel
  • os ydych chi dros bwysau neu'n ordew, collwch bwysau
  • dewch i wybod eich lefel colesterol - os yw'n uchel, dylech ei leihau drwy fwyta deiet braster isel
  • byddwch yn ymwybodol o symptomau a ffactorau risg (megis hanes teulu) diabetes
  • bwytwch lai o siwgr coeth megis bisgedi a chacennau

Rheoli diabetes

Allwch chi ddim gwella diabetes, ond gallwch ei reoli.

Caiff diabetes Math 1 ei drin bob tro gyda phigiadau inswlin (defnyddir y rhain mewn rhai achosion Math 2 hefyd). Mae hyn yn cynyddu'r inswlin sy'n eich corff ac yn dod â lefel glwcos y gwaed i lawr. Bydd eich meddyg neu nyrs eich practis yn dangos i chi sut i roi pigiad i chi'ch hun.

Caiff Math 2 ei drin gyda chyfuniad o ddeiet iach ac ymarfer corff rheolaidd, ac, os oes angen, tabledi neu bigiadau inswlin. Bydd angen i chi fod yn ofalus faint o galorïau y byddwch yn eu bwyta a chadw golwg ar eich pwysau.

Byw gyda diabetes

Nid oes rhaid i ddiabetes effeithio ar eich bywyd os byddwch chi'n gwneud y canlynol:

  • edrych ar ôl eich hun - drwy wneud ymarfer corff, bwyta'n iach, a pheidio ag yfed gormod o alcohol nac ysmygu
  • cael archwiliadau rheolaidd gyda'ch meddyg - bob tri i chwe mis, a/neu archwiliadau diabetes blynyddol yn eich clinig lleol; gan gynnwys profion blynyddol ar gyfer cymhlethdodau tymor hir megis afiechyd ar y llygaid neu'r arennau
  • monitro lefelau glwcos eich gwaed, os oes angen - gallwch wneud hyn yn rhwydd yn eich cartref gyda mesurydd glwcos-y-gwaed bychan, ac yn dibynnu ar y canlyniad, efallai y bydd angen i chi addasu'ch deiet, faint o ymarfer corff y byddwch yn ei wneud neu'ch meddyginiaeth

Archwilio’ch llygaid a’ch traed

Gall diabetes niweidio eich nerfau, yn enwedig nerfau eich traed. Weithiau bydd hyn yn arwain at ddiffyg teimlad neu losg neu gael teimlad o binnau bach yn y traed. Archwiliwch eich traed yn rheolaidd am friwiau, wlserau a swigod. Os na chânt eu trin gallant droi'n ddrwg.

Gall diabetes hefyd achosi i'r pibellau gwaed yng nghefn y llygaid lifo (gelwir hyn yn retinopathi diabetig). Ond po orau y gallwch chi reoli lefelau siwgr eich gwaed dros y blynyddoedd, lleiaf eich siawns o ddatblygu problemau difrifol â'ch llygaid. Gwnewch yn siwr eich bod yn cael prawf llygaid blynyddol gydag arbenigwr fel y gellir canfod a thrin unrhyw broblemau llygaid difrifol yn ddigon buan.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU