Cymorth ymarferol i addasu gosodiadau eich porwr Microsoft Internet Explorer fel bo'r sgrîn yn haws ei darllen.
Mae rhai defnyddwyr yn ei chael yn haws darllen y testun ar y sgrîn trwy gynyddu maint y testun sy'n cael ei ddangos.
I wneud hyn yn Microsoft Internet Explorer, ewch i'r ddewislen 'Gweld' (View menu), dewis 'Maint y Testun' (Text Size) ac wedyn naill ai dewis 'Mwy' (Larger) neu 'Mwyaf' (Largest).
Ticiwch y blwch 'Anwybyddu'r lliwiau a bennir ar dudalennau Gwe' (Ignore colors specified on Web pages)
Mae Internet Explorer yn darparu ffyrdd eraill i chi addasu sut y bydd tudalennau Directgov yn ymddangos ar eich sgrîn.
Er enghraifft, gallwch gael gwared ar liwiau'r cefndir a dewis ym mha liwiau yr ydych am weld testun, dolenni a dolenni yr ydych wedi'u defnyddio yn cael eu dangos.
Gallwch wneud y newidiadau hyn drwy:
Wedyn ticio'r blwch 'Anwybyddu'r lliwiau a bennir ar dudalennau Gwe' (Ignore colors specified on Web pages).
Yna cliciwch ar y botwm 'Iawn' (OK). Bydd hyn yn diffodd y lliwiau cefndir yn Directgov.
Gallwch ddewis lliwiau'r testun a'r dolenni
Dad-diciwch y blwch 'Defnyddio lliwiau' Windows (Use Windows colors). Wedyn gallwch bennu pa liwiau yr ydych am eu defnyddio ar gyfer y testun ac ar gyfer y dolenni.
Gallwch hefyd ddewis lliwiau ar gyfer y dolenni yr ydych wedi'u defnyddio o'r blaen a'r dolenni pan fydd eich llygoden yn hofran drostyn nhw.
Mae Microsoft yn cyhoeddi gwybodaeth fanwl am nodweddion mynediad y porwr gwe Internet Explorer 6 a meddalwedd Microsoft arall.