Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Firefox - gosodiadau'r porwr

Cymorth ymarferol i addasu gosodiadau eich porwr Firefox fel bo'r sgrîn yn haws ei darllen.

Cynyddu maint y testun

Mae rhai defnyddwyr yn ei chael yn haws darllen y testun ar y sgrîn trwy gynyddu maint y testun sy'n cael ei ddangos.

I wneud hyn yn Firefox, ewch i'r ddewislen 'View', dewiswch 'Text Size' ac wedyn dewis 'Increase'. Gallwch gael yr un effaith drwy ddefnyddio'r bysellfwrdd a gwasgu'r bysellau 'Ctrl' a '+' ar yr un pryd.

Newid ymddangosiad y sgrîn

Mae Firefox yn darparu ffyrdd eraill o addasu sut y bydd tudalennau Directgov yn ymddangos ar eich sgrîn.

Er enghraifft, gallwch newid lliwiau'r cefndir a dewis ym mha liw yr ydych am weld testun, dolenni a dolenni yr ydych wedi ymweld â nhw o'r blaen.

Gallwch wneud y newidiadau hyn drwy:

  1. Mynd i'r ddewislen 'Offer' (Tools) ar frig y dudalen
  2. Dewis 'Options...' o'r ddewislen honno
  3. Clicio ar y botwm 'Font & Colors...'

Ar y blwch 'Font & colors' box gallwch newid y lliwiau a ddefnyddir gan Directgov trwy dicio ar y blychau 'Always use my: Fonts' a 'Always use my: Colors'.

Gallwch nodi ym mha liw yr hoffech i destun a dolenni gael eu dangos a lliw cefndir y dudalen. Gallwch hefyd ddewis lliwiau ar gyfer y dolenni yr ydych wedi ymweld â nhw o'r blaen a'r dolenni pan fydd eich llygoden yn hofran drostyn nhw.

Mwy o fanylion am hwyluso mynediad gyda Firefox

Mae Firefox yn cyhoeddi gwybodaeth fanwl am sut i addasu ymddangosiad eu porwr.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU