Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 9 Chwefror 2012

Dod o hyd i wasanaethau iechyd lleol ar eich ffôn symudol

Anfonwch neges destun i ddod o hyd i'ch cyfleusterau iechyd agosaf gyda gwasanaeth ffôn symudol Directgov. Defnyddiwch eich ffôn i ddod o hyd i feddygfeydd, fferyllfeydd, optegwyr, deintyddion, adrannau damweiniau ac achosion brys a mwy

Pam defnyddio peiriant chwilio GIG ar eich ffôn symudol?

Dewch o hyd i'ch cyfleusterau iechyd agosaf, gydag NHS Choices a Directgov

Ni allwch drefnu ar gyfer pob digwyddiad, yn enwedig os yw'n ymwneud ag iechyd.

Dyna pam fod NHS Choices a Directgov wedi lansio gwasanaeth newydd i'ch helpu i ddod o hyd i'ch cyfleusterau iechyd agosaf, lle bynnag y byddwch.

Felly os bydd angen unrhyw beth arnoch, boed yn blasteri, llenwadau, sbectol neu bwythau - gall Directgov eich rhoi ar ben ffordd.

Sut mae’n gweithio

Anfonwch neges destun gydag enw'r gwasanaeth sydd ei angen arnoch (gweler y rhestr lawn isod) at 64746

Byddwn yn dod o hyd i'ch cod post ac yn anfon rhestr o'r gwasanaethau agosaf atoch, ynghyd â chyfeiriadau, rhifau ffôn a mapiau. Drwy anfon neges destun at y gwasanaeth hwn bydd rhwydwaith eich ffôn symudol yn rhoi gwybod i ni am eich lleoliad ar unwaith - fodd bynnag, ni fyddwn yn storio'r wybodaeth hon.

Dilynwch y camau hyn:

1. Tecstiwch enw'r gwasanaeth sydd ei angen arnoch, e.e. 'A&E' i 64746

2. Yna byddwch yn cael neges destun gyda dolen ynddi

3. Agorwch y ddolen i gael rhestr o'r gwasanaethau agosaf

Costau

Yn yr un modd â'r wefan, ni fydd Directgov yn codi tâl arnoch am ddefnyddio unrhyw un o'u gwasanaethau symudol. Fodd bynnag, gallai eich gweithredydd ffôn symudol godi tâl arnoch am anfon neges destun a defnyddio'r rhyngrwyd ar eich ffôn.

Fel canllaw bras, os ydych chi'n talu £2 am bob MB (megabeit) o ddata, gallai gostio cyn lleied ag 1c i bori pum tudalen o Directgov. Bydd costau'n amrywio yn ôl eich contract felly holwch eich gweithredydd rhwydwaith i gael rhagor o wybodaeth

Rhestr lawn o wasanaethau

Dewiswch o blith y gwasanaethau canlynol:

  • Damweiniau ac achosion brys
  • gwasanaethau cymorth gyda chamddefnyddio alcohol (tecstiwch 'alcohol')
  • deintydd
  • Meddyg Teulu
  • mamolaeth
  • optegydd
  • fferyllfa
  • iechyd rhyw
  • rhoi'r gorau i ysmygu
  • canolfan galw i mewn (tecstiwch 'galw i mewn')

A oedd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol?

Pa mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth hon?

Terfyn o 500 nod
Eich preifatrwydd Opens new window

Pam rydyn ni'n gofyn am yr wybodaeth hon?

  • Hoffem gael eich barn ynghylch safon a defnyddioldeb ein tudalennau
  • Bydd eich sylwadau yn ein helpu i wella ein tudalennau
  • Byddant hefyd yn helpu gyda datblygiad Directgov yn y dyfodol
  • Bydd dweud eich barn yn helpu i sicrhau ein bod ni'n rhoi'r gwasanaeth gorau oll i chi

Allweddumynediad llywodraeth y DU