Os ydych yn gwsmer i Sky neu Virgin Media gallwch gael Directgov drwy eich set deledu. Mae gan y gwasanaeth, sydd wedi'i gynllunio'n arbennig ar gyfer y teledu, gyfoeth o wybodaeth sy'n eich galluogi i weld gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn yr un lle.
Efallai eich bod yn gwybod am rywun nad oes ganddo fynediad i'r rhyngrwyd. Os ydych yn credu y gallent fanteisio ar ddefnyddio Directgov ar y teledu, dywedwch wrthynt am y gwasanaeth. Gallai eu helpu i ddod o hyd i swyddi, cael gwybod am y budd-daliadau y mae ganddynt yr hawl i'w cael, cael gwybod am eu hawliau cyfreithiol neu ddysgu am yr hyn y gallant ei wneud i helpu'r amgylchedd hyd yn oed.
Os ydych yn gwsmer i Virgin Media:
Os oes gennych Sky:
Chwilio am swyddi
Chwiliwch drwy fwy na 400,000 o gyfleoedd swyddi gan y Ganolfan Byd Gwaith.
Cyngor am ddim ar yrfaoedd a dysgu
Gallwch gael cyngor cyfrinachol, diduedd ar yrfaoedd a dysgu gan learndirect. Trefnwch i gael galwad ffôn yn ôl yn rhad ac am ddim gan gynghorydd learndirect.
Chwiliadau lleol
Teipiwch eich cod post i ddod o hyd i'r gwasanaethau canlynol yn eich ardal leol
Ffurflenni cais a thaflenni
Gallwch archebu canllawiau cymorth cyfreithiol am ddim ar bynciau megis dyledion, prynu a gwerthu eiddo, hawliau cyflogaeth ac ysgariad. Gallwch hefyd archebu ffurflenni trwydded yrru a chofrestru cerbyd gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA).