Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Sut i chwilio - cyflwyniad

Mae ein peiriant chwilio yn chwilio drwy safle Directgov. Defnyddiwch yr awgrymiadau yn y tudalennau cymorth wrth chwilio er mwyn cael gwell canlyniadau.

Chwilio sylfaenol

Beth ydy chwilio sylfaenol?

Teipiwch air allweddol neu frawddeg ynglŷn â'r hyn yr ydych yn chwilio amdano yn y blwch chwilio sy'n ymddangos ar yr ochr dde ar frig tudalen pob gwefan. Yna dewiswch Mynd.

Ydy'r peiriant chwilio'n adnabod llythrennau mawr a bach?

Nac ydy. Gallwch deipio mewn llythrennau bach, LLYTHRENNAU MAWR neu Gyfuniad o'r Ddau ac ni fydd yn effeithio ar ganlyniadau'r chwilio.

Un gair neu sawl gair?

Efallai na fydd chwilio am un gair yn rhoi canlyniadau da. Po fwyaf o wybodaeth y byddwch yn ei darparu, gorau fydd y canlyniadau. Er enghraifft, bydd chwilio am 'gredyd treth plant' yn rhoi gwell canlyniadau i chi na chwilio am y gair 'treth' yn unig.

Alla i chwilio am ymadroddion neu eiriau penodol?

Gallwch. Os ydych chi'n chwilio am air neu ymadrodd penodol, rhowch yr holl eiriau mewn dyfynodau dwbl, er enghraifft, "trwydded yrru". Bydd y peiriant chwilio'n chwilio am dudalennau sy'n cynnwys yr union ymadrodd hwnnw ac felly bydd yn cyfyngu eich canlyniadau, ond byddant yn fwy penodol.

Ydy'r peiriant chwilio'n anwybyddu geiriau megis 'ac' neu 'yr' pan fyddaf yn teipio ymadrodd i chwilio amdano?

Gelwir geiriau a ddefnyddir yn aml fel 'ond', 'yr', 'ac' yn eiriau 'bach'. Os byddwch yn teipio cyfres o eiriau allweddol yn y blwch chwilio sylfaenol sy'n cynnwys unrhyw eiriau 'bach', bydd y peiriant chwilio yn eu hanwybyddu.

Deall y canlyniadau

Sut mae'r canlyniadau'n cael eu dangos?

Bydd y peiriant chwilio yn dod o hyd i'r canlyniadau sydd fwyaf perthnasol i'r geiriau allweddol a nodwyd yn y blwch chwilio. Y canlyniadau 'gorau' a ddangosir ar frig y rhestr. Ar gyfer pob canlyniad, mae'r peiriant chwilio yn dangos:

  • teitl y dudalen
  • crynodeb o’r hyn sydd ar y dudalen
  • o ba adran Directgov y daw'r canlyniad

Argymhellion Directgov

Mewn rhai achosion, bydd y peiriant chwilio'n dangos dolenni a argymhellir ar frig y rhestr o ganlyniadau. Dylent awgrymu gwybodaeth ddefnyddiol am y geiriau yr oeddech yn chwilio amdanynt. Er enghraifft, os yw'r geiriau yr oeddech yn chwilio amdanynt braidd yn gyffredinol neu'n cwmpasu sawl maes gwahanol, bydd dolenni'n cael eu hargymell sy'n awgrymu mannau cychwyn defnyddiol ar gyfer dod o hyd i fwy o wybodaeth benodol.

Weithiau bydd Directgov yn argymell gwefannau eraill (dolenni allanol). Bydd y dolenni hyn yn ymddangos fel blwch ar ochr dde'r prif ganlyniadau.

Cyfyngu eich chwiliad. Dewiswch ba ganlyniadau yr hoffech eu gweld

Mae'r blwch ar ochr chwith y dudalen yn rhoi gwybod i chi faint o ganlyniadau sydd ar gyfer yr ymholiad chwilio yr ydych wedi'i wneud, er enghraifft: Pob tudalen (300). Lle bo'n briodol, mae'r blwch hefyd yn dangos faint o ganlyniadau sydd yn yr adrannau Ei wneud ar y we, Newyddion neu Cysylltiadau defnyddiol. Os mai dim ond y canlyniadau o un o'r adrannau hyn yr ydych am eu gweld, dewiswch y ddolen briodol. Er enghraifft, os mai dim ond am Cysylltiadau defnyddiol yr oeddech yn chwilio amdanynt, dewiswch y ddolen: Cysylltiadau defnyddiol (24). Er mwyn dychwelyd at yr holl ganlyniadau, dewiswch y ddolen Pob tudalen.

Chwilio o fewn canlyniadau

Er mwyn cyfyngu cyfres o ganlyniadau gallwch chwilio drwyddi. Er enghraifft, os gwnaethoch chwilio am derm generig fel 'trwydded' neu 'treth' i ddechrau a'ch bod wedi cael llawer o ganlyniadau. Dewiswch y ddolen Chwilio o fewn ar ochr dde'r dudalen. Yna byddwch yn gweld blwch chwilio arall yn agor uwchben canlyniadau'r chwiliad. Os byddwch yn teipio gair allweddol neu ymadrodd yma, bydd y peiriant chwilio yn chwilio am air/eiriau newydd gan ddefnyddio'r gyfres bresennol o ganlyniadau'n unig.

Wedi methu dod o hyd i’r hyn yr oeddech yn chwilio amdano?

O bryd i'w gilydd, efallai na fydd y peiriant chwilio yn gallu dod o hyd i unrhyw ganlyniadau. Efallai mai'r rheswm dros hyn yw nad yw Directgov yn cwmpasu'r pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo neu efallai na all y peiriant chwilio ddeall gair allweddol neu ymadrodd y gwnaethoch eu defnyddio.

Mae Directgov yn ceisio darparu atebion priodol i gwestiynau'r rhan fwyaf o bobl am wasanaethau'r llywodraeth. Weithiau, efallai y bydd angen gwybodaeth fwy arbenigol arnoch, megis manylion polisi neu ddeddfwriaeth. Darllenwch y dudalen 'Dod o hyd i ragor o wybodaeth gan y llywodraeth' i gael awgrymiadau.

Fel arall, ceisiwch chwilio gyda therm gwahanol neu ddiwygiedig neu sicrhewch eich bod wedi sillafu'r gair yn gywir. Gallwch hefyd ddefnyddio'r ffurflen chwilio Manwl, sy'n darparu ffordd hawdd o greu chwiliadau mwy cymhleth.

Os na allwch ddod o hyd i'r hyn rydych yn chwilio amdano ar Directgov, defnyddiwch y Ffurflen Sylwadau hon i gysylltu â ni.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU