Defnyddiwch yr awgrymiadau yn yr adran hon i gael y gorau o'r cyfleuster chwilio'n fanwl. Mae'n ffordd rwydd o gyfyngu ar yr hyn rydych chi'n chwilio amdano ar Directgov.
Mae'r cyfleuster chwilio'n fanwl yn ffordd hawdd o deipio meini prawf mwy penodol, sy'n gallu darparu gwell canlyniadau.
Bydd yr opsiynau hyn yn eich help chi i gyfyngu'ch chwiliad. Darllenwch y cwestiynau isod i gael mwy o fanylion am bob opsiwn
Mae'r opsiwn hwn yn chwilio am yr holl eiriau ac yn dychwelyd y canlyniadau lle mae o leiaf un o'r geiriau yn ymddangos ynddynt. Mae'n well defnyddio'r opsiwn hwn pan fyddwch yn chwilio am rywbeth y gellir ei ddisgrifio mewn sawl ffordd. Er enghraifft, os byddwch yn teipio 'Prydain' neu 'DU' neu 'Y Deyrnas Unedig', bydd y peiriant chwilio ond yn dod o hyd i ddogfennau sy'n cynnwys un neu fwy o'r termau 'Prydain' neu 'DU' neu 'Y Deyrnas Unedig'.
Mae'r opsiwn hwn yn trin y geiriau sydd wedi'u teipio fel ymadrodd. Er enghraifft, bydd teipio 'credyd treth plant' yn darparu canlyniadau sy'n cynnwys yr ymadrodd 'credyd treth plant' yn unig.
Bydd yr opsiwn hwn yn darparu canlyniadau a fydd yn cynnwys pob gair yr ydych wedi'u teipio. Er enghraifft, os byddwch yn teipio 'PSM, trosglwyddadwy, clefyd', bydd y peiriant chwilio dim ond yn dod o hyd i ddogfennau sy'n cynnwys y tair eitem.
Defnyddir yr opsiwn hwn er mwyn peidio â chynnwys y geiriau yn y chwiliad. Er enghraifft, efallai eich bod am gael gwybodaeth am 'dâl' ond nid am 'oramser'.
Gallwch. Gellir defnyddio'r tri opsiwn cyntaf ('Gyda'r holl eiriau', 'Gyda'r union ymadrodd' a 'gydag o leiaf un o'r geiriau') naill ai ar eu pennau'u hunain neu gyda'r opsiynau eraill. Rhaid defnyddio'r opsiwn 'Heb y geiriau' gydag un o'r opsiynau eraill. Bydd defnyddio'r holl opsiynau yn cyfyngu ar y chwilio'n arw ac efallai na fydd yn darparu'r canlyniadau yr ydych eu hangen.
Teipiwch eich cwestiwn fel yr ydych yn meddwl amdano, ond peidiwch â defnyddio nodau atalnodi. Er enghraifft, 'Sut ydw i'n cael Budd-dal Tai?'
Mae'r rhestr gwymp 'Chwilio o fewn' yn gadael i chi benderfynu ble i chwilio. Gallwch chwilio'r safle hwn - y gosodiad diofyn, neu ddewis chwilio Cyswllt Busnes os oes gennych gwestiwn sy'n gysylltiedig â busnes. Mae'r opsiwn 'Chwilio yn' yn chwilio trwy elfennau penodol o bob tudalen i ddod o hyd i'r geiriau rydych yn chwilio amdanynt. Gallwch ddewis chwilio trwy'r testun, teitl y dudalen, geiriau allweddol sy'n disgrifio'r ddogfen a URL. Gallwch hefyd chwilio am dudalennau neu ddogfennau a gyhoeddwyd o fewn cyfnod penodol trwy ddewis amrediad dyddiadau.
Dangosir y canlyniadau, trwy'r gosodiad diofyn, yn nhrefn perthnasedd. Hefyd, gallwch ddewis y canlyniadau yn nhrefn dyddiad (y diweddaraf gyntaf) trwy ddewis y botwm radio 'Dyddiad' yn yr opsiynau Dangos.