Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cymorth gyda gweddarllediadau

Gellir gweld a gwrando ar Araith y Frenhines, Cwestiynau i'r Prif Weinidog, datganiadau am y Gyllideb a dadleuon a datganiadau pwysig gan weinidogion trwy'r dudalen gweddarlledu yn yr adran Newyddion. Os ydych am weld y rhain, ond heb fod yn sicr beth i'w wneud, dilynwch y cyngor isod

Meddalwedd gweddarlledu

Er mwyn gweld y gweddarllediadau fideo ar y safle hwn, rhaid i chi osod neu lwytho i lawr naill ai Real Player neu Windows Media Player. Fel arfer y mae'r olaf wedi'i osod yn barod ar gyfrifiaduron newydd. Mae'r ddau ar gael am ddim trwy ddewis un o'r dolenni

Muriau cadarn (firewalls)

Efallai y bydd mur cadarn yn eich rhwystro rhag gweld y gweddarllediadau, yn enwedig os ydych yn rhan o rwydwaith (er enghraifft, mewn swyddfa). Os oes gennych Real Player neu Windows Media Player ar eich cyfrifiadur, ond yn cael trafferth gweld a chlywed ein gweddarllediadau, dylech ofyn am gyngor gan ddarparwr eich gwasanaeth rhyngrwyd neu weinyddwr rhwydwaith y swyddfa. Os ydych yn defnyddio mur cadarn, dylech wirio'r fanyleb i ganfod a yw'n effeithio ar y gweddarllediad.

Band eang

Does dim rhaid i chi gael band eang neu fynediad cyflym arall i weld gweddarllediadau gan eu bod wedi'u cynllunio i weithio i rywun sy'n defnyddio modem 56k neu gyflymach.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU