Awgrymiadau ar chwilio'r adrannau Cysylltiadau Defnyddiol, Ei wneud ar y we neu Newyddion.
Pan fyddwch yn adrannau Ei wneud ar y we, Newyddion neu Cysylltiadau defnyddiol y wefan hon, gallwch ddewis chwilio'r adran honno'n unig. Er enghraifft, os buoch yn chwilio am 'credyd treth plant' yn yr adran Newyddion, dim ond canlyniadau o'r adran honno y byddwch yn eu cael, hynny ydy, erthyglau newyddion. Ni fyddwch yn cael gwybodaeth am gredyd treth plant o adrannau eraill yn Directgov. Defnyddiwch y blwch chwilio'r safle cyfan, sydd ar gael yng nghornel uchaf pob tudalen ar y dde, os ydych am chwilio pob adran o Directgov.
Gall eich helpu i gael canlyniadau da os ydych yn gwybod mai dim ond gwybodaeth sy'n berthnasol i'r adran yr ydych ynddi yr ydych am ei chael. Er enghraifft, os ydych am gael cysylltiadau defnyddiol ar gyfer rhieni sengl.
Yma gallwch ddewis chwilio yn ôl teitl, geiriau yn y ddogfen neu chwilio am air neu eiriau allweddol sy'n disgrifio'r ddogfen.
Gallwch ddewis chwilio am ddogfennau a gyhoeddwyd rhwng dyddiadau arbennig.
Gallwch drefnu'r canlyniadau yn ôl eu perthnasedd neu yn ôl dyddiad cyhoeddi.