Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 23 Mai 2012

Help wrth chwilio drwy wefan Directgov – chwilio manwl

Gan ddefnyddio’r adnoddau chwilio manwl, gallwch greu ymholiad manwl i ddod o hyd i wybodaeth benodol ar beiriant chwilio Directgov. Er enghraifft, gallwch gyfyngu eich canlyniadau i dudalennau sydd ddim yn cynnwys geiriau penodol, neu dudalennau a gyhoeddwyd rhwng dyddiadau penodol. Yma cewch wybodaeth am sut mae cyfyngu eich chwiliad.

Cyfyngu eich chwiliad

Gallwch ddefnyddio’r hidlyddion ar ochr chwith y dudalen canlyniadau chwilio i gynnwys, neu hepgor, geiriau allweddol ac adrannau ar y safle. I gael mwy o fanylion, gweler y brif dudalen ‘Help wrth chwilio drwy wefan Directgov’.

Sut mae defnyddio chwilio manwl

Cliciwch ar y ddolen ‘Chwilio manwl’ ger y blwch chwilio ar y dudalen canlyniadau

Gyda’r nodwedd chwilio manwl, gallwch greu ymholiad cymhleth i ddod o hyd i wybodaeth benodol.

Cliciwch ar y ddolen ‘Chwilio manwl’ ger y blwch chwilio ar y dudalen canlyniadau. Bydd yr adnoddau chwilio manwl yn ymddangos mewn ffenestr naid os yw JavaScript wedi’i alluogi ar eich porwr. Os nad yw JavaScript wedi’i alluogi ar eich porwr, bydd ffurflen chwilio manwl yn ymddangos ar dudalen newydd.

Pan fyddwch chi'n clicio ar un o'r opsiynau yn y ffenestr naid, bydd ymholiad chwilio arbennig yn ymddangos yn y blwch chwilio. Bydd angen i chi nodi’r hyn rydych yn chwilio amdano gan deipio dros 'Teipiwch eich gair yma' neu 'Teipiwch eich ymadrodd yma', neu’r dyddiad 'DD/MM/BBBB' (sy'n golygu diwrnod/mis/blwyddyn).

Gallwch gyfuno amryw o opsiynau chwilio manwl i greu ymholiad chwilio manwl iawn. Gweler y ffenestr naid 'Chwilio manwl' i weld y rhestr lawn.

Does dim rhaid i chi ddefnyddio adnoddau chwilio sydd wedi'u galluogi gan JavaScript – gallwch deipio eich ymholiad chwilio manwl yn syth yn y blwch chwilio cyffredin.

Enghreifftiau o chwilio manwl

Yr union ymadrodd

I ddod o hyd i dudalennau sy’n cynnwys dilyniant penodol o eiriau, rhowch y geiriau mewn dyfynodau dwbl: "Rhowch eich ymadrodd yma".

O leiaf un o’r geiriau

I chwilio am un gair neu ragor, defnyddiwch ‘OR’ rhwng y geiriau, a'u rhoi mewn cromfachau. Er enghraifft: dyddiadau cau (hunanasesu OR ffurflen dreth).

Heb y geiriau

I chwilio am dudalennau sydd ddim yn cynnwys geiriau penodol, gallwch naill ai ddefnyddio ‘NOT’ neu roi’r arwydd minws ‘-’ o flaen y gair.

Os byddwch yn clicio ar 'Geiriau wedi’u heithrio' yn y ffenestr naid, bydd yn ychwanegu '-Rhowch eich gair yma’ yn y blwch chwilio. Mae hyn yn golygu na fydd y gair yn ymddangos ar y tudalennau o’ch canlyniadau.

Cyn gwneud hyn, bydd angen i chi deipio’r geiriau rydych chi am chwilio amdanynt. Er enghraifft, bydd 'pensiwn –y wladwriaeth' yn chwilio am yr holl dudalennau sy’n cynnwys y gair ‘pensiwn’ ond ddim yn cynnwys ‘y wladwriaeth’ – hynny yw, tudalennau ynghylch pensiynau ond nid ynghylch Pensiwn y Wladwriaeth.

Ystod dyddiad

Gallwch chwilio am dudalennau a gyhoeddwyd o fewn ystod benodol o ddyddiadau. Yn y ffenestr naid, cliciwch ar ‘Dyddiad’ i gael union ddyddiad, neu 'Chwilio ar ôl dyddiad' a/neu 'Chwilio cyn dyddiad'.

Er enghraifft, i weld pob tudalen ynghylch treth sydd wedi cael ei chyhoeddi neu ei diweddaru ers dechrau blwyddyn dreth 2011-12, byddech yn chwilio am 'treth ar ôl:05/04/2011'.

Chwilio am deitl

Os byddwch yn clicio ar 'Chwilio am deitl' yn y ffenestr naid, bydd yn ychwanegu 'teitl:(Rhowch eich gair yma)' yn y blwch chwilio. O wneud hyn, bydd yn chwilio am dudalennau lle mae'r gair neu'r geiriau a roddoch yn ymddangos yn nheitl y dudalen.

A oedd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol?

Pa mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth hon?

Terfyn o 500 nod
Eich preifatrwydd Opens new window

Pam rydyn ni'n gofyn am yr wybodaeth hon?

  • Hoffem gael eich barn ynghylch safon a defnyddioldeb ein tudalennau
  • Bydd eich sylwadau yn ein helpu i wella ein tudalennau
  • Byddant hefyd yn helpu gyda datblygiad Directgov yn y dyfodol
  • Bydd dweud eich barn yn helpu i sicrhau ein bod ni'n rhoi'r gwasanaeth gorau oll i chi

Allweddumynediad llywodraeth y DU