Mae Directgov ar gael ar bob ffôn symudol sy'n gallu cysylltu â'r rhyngrwyd. Os ydych chi ar grwydr neu os nad oes cyfrifiadur ar gael i chi, gallwch ddefnyddio eich ffôn i gael y wybodaeth deithio ddiweddaraf, i ddod o hyd i'ch meddyg agosaf, i ddysgu am gymorth gyda chostau gofal plant a llawer mwy.
I ddefnyddio'r gwasanaeth, anfonwch y gair MOBILE ar neges testun i 83377 (codir tâl ar y gyfradd safonol). Yna, byddwch yn cael neges testun gyda dolen ynddi. Cliciwch ar y ddolen i weld Directgov Symudol.
Neu, teipiwch www.direct.gov.uk/mobile ar borwr rhyngrwyd eich ffôn.
I'w gwneud yn haws i ddychwelyd i Directgov Symudol, dewiswch 'Bookmark', 'Add bookmark' neu 'Favourites' ar eich ffôn. Cofiwch y bydd hyn yn amrywio yn ôl y math o ffôn sydd gennych, felly edrychwch yn llawlyfr defnyddiwr eich ffôn i gael help.
I gael mynediad hwylusach at Directgov Symudol, gallwch anfon neges gydag enw'r gwasanaeth y mae arnoch ei eisiau i 83377.
Yna, bydd Directgov yn anfon neges testun a fydd yn cynnwys dolen yn ôl atoch. Yr unig beth y mae angen i chi ei wneud yw agor y ddolen a bydd yn mynd â chi i'r dudalen briodol ar Directgov Symudol.
Anfonwch un o'r geiriau allweddol hyn i 83377
Dim ond pris neges testun arferol y byddwch yn ei dalu - bydd y negeseuon a gewch gan Directgov am ddim.
Edrychwch ar Directgov Symudol cyn cychwyn ar daith i gael y wybodaeth ddiweddaraf am deithio a thrafnidiaeth. Yn ogystal â hysbysiadau teithio ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus a ffyrdd o amgylch y DU, gallwch chwilio am amserau gadael a chyrraedd trenau.
Nodwch leoliad er mwyn dod o hyd i'r toiledau cyhoeddus, y gorsafoedd petrol a'r mannau parcio Bathodyn Glas agosaf ynghyd â mapiau i'ch helpu i ddod o hyd iddynt.
Chwiliwch drwy amrywiaeth o wasanaethau lleol. Gallwch ddod o hyd i gyngor cyfreithiol yn lleol, manylion cyswllt eich cyngor, swyddfeydd pasport rhanbarthol, swyddfeydd cyfweliadau a Swyddfeydd Post sy'n cynnig gwasanaeth Gwirio ac Anfon Pasportau, yn ogystal â chanolfannau UK Online.
Gallwch hefyd chwilio am wasanaethau lleol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol gan gynnwys meddygon, deintyddion, optegwyr a fferyllwyr yn eich ardal leol, neu gallwch anfon neges testun er mwyn trefnu i restr o gyfleusterau iechyd lleol gael eu hanfon yn uniongyrchol i'ch ffôn symudol.
Porwch drwy'r adran 'Gwybodaeth' i gael canllawiau cyflym i arian, cartrefi ac eiddo, dysgu, teithio, pasportau a chymorth cyfreithiol.
Ewch i adran 'Cyhoeddiadau cyhoeddus' Directgov i gael hysbysiadau terfysgaeth, cyhoeddiadau'r llywodraeth a chyngor mewn argyfwng.
Yn yr un modd â'r wefan, ni fydd Directgov yn codi tâl arnoch am ddefnyddio'i wasanaethau symudol. Fodd bynnag, gallai gweithredwr rhwydwaith eich ffôn symudol godi tâl arnoch am ddefnyddio'r rhyngrwyd ar eich ffôn. Bydd y costau'n amrywio yn dibynnu ar eich cytundeb ffôn felly holwch eich gweithredwr i gael gwybod am dariffau.
Gallwch gael gafael ar Directgov symudol hefyd drwy hafan rhwydweithiau, a elwir hefyd yn byrth, megis:
Fel arfer hafan eich rhwydwaith yw'r dudalen gyntaf a welwch pan fyddwch yn cysylltu â'r rhyngrwyd ar eich ffôn. Chwiliwch am y ddolen i Directgov y tro nesaf y byddwch yn cysylltu.
Enillodd Directgov Symudol Wobr Cyfathrebu Da mewn Technoleg Symudol 2007, sy'n wobr uchel ei pharch. Mae gwasanaethau Directgov newydd yn cael eu hychwanegu drwy'r amser, felly cadwch lygad ar y datblygiadau diweddaraf.