Os hoffech gymryd rhan yn ein harolwg wefan ymwelydd, a wnewch chi ymweld â'r safle ac wedyn dod yn �l a dewis y ddolen hon i gymryd rhan yn yr arolwg.

Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dewis ardal

Mae llawer o resymau dros symud i ardal newydd neu i wlad wahanol hyd yn oed. Efallai eich bod am symud yn nes at eich teulu neu'n gorfod symud gyda'ch gwaith. Beth bynnag fo'r rheswm, gall fod yn gyfnod o straen mawr. Ewch ar wefan y cyngor lleol a'r dolenni isod i gael gwybod mwy am wahanol fannau cyn i chi ei mentro hi.

Cynghorau lleol

Mae gwefannau cynghorau lleol yn aml yn cynnwys llawer iawn o wybodaeth am yr ardal leol, megis cynlluniau ar gyfer datblygiadau newydd neu gysylltiadau trafnidiaeth.

Prisiau tai

Cewch wybod beth sy'n digwydd i brisiau eiddo yng Nghymru a Lloegr ar wefan y Gofrestrfa Tir.

Ydych chi’n ystyried symud dramor?

Dechreuwch drwy fynd i adran Prydeinwyr sy'n byw dramor Directgov.

Rhagolygon gwaith

Chwiliwch am y diweddaraf am swyddi lleol gyda'r Ganolfan Byd Gwaith a Phenodiadau Cyhoeddus.

Ysgolion

Mae gwefan Ofsted (Office for Standards in Education) yn darparu gwybodaeth am bob ysgol gynradd ac uwchradd lleol, ac adroddiadau ar feithrinfeydd, unedau cyfeirio disgyblion, ysgolion arbennig, ysgolion annibynnol a darparwyr addysg ôl-16 yn Lloegr.

Eich cymdogaeth

Ewch ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol i weld mapiau ac ystadegau ar gyfer ardaloedd lleol ar amrywiaeth o bynciau gan gynnwys poblogaeth, troseddu, iechyd a thai.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Gwybodaeth am deithio gyda thrên, awyren, bws, fferi, metro a thram (gan gynnwys amserlenni a phrisiau) yn y DU, a rhwng y DU, Iwerddon a thir mawr Ewrop.

Trafnidiaeth ffyrdd

Os ydych am gael gwybod am y prif rwydwaith ffyrdd a datblygiadau yn y dyfodol ar y ffyrdd ar draws Lloegr, ewch i wefan yr Asiantaeth Priffyrdd.

Chwaraeon a hamdden

Mae gwefannau cynghorau lleol yn aml yn cynnwys gwybodaeth am gyfleusterau hamdden ac adloniant yn yr ardal.

Yr amgylchedd

Defnyddiwch godau post neu enwau llefydd i gael gwybod am yr amgylchedd lleol, o lygredd i lifogydd, gydag Asiantaeth yr Amgylchedd.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU