Pwrpas cofrestru teitl tir yw creu a chynnal cofrestr o dirfeddianwyr y mae eu teitl yn cael ei warantu gan y wladwriaeth. Yn y bôn, gwneud y broses o drosglwyddo a morgeisio tir yn haws. Rhaid cofrestru wrth werthu, cydsynio neu forgeisio tir.
Teitl cofrestredig ydy'r dystiolaeth gyfreithiol o deitl, sydd wedi cael ei gofrestru gyda'r Gofrestrfa Tir. Mae teitl cofrestredig yn darparu'r cofnod swyddogol diweddaraf o berchnogaeth gyfreithiol a rhai materion penodol sy'n ymwneud â'r eiddo neu'r darn o dir dan sylw.
Y Gofrestr Tir yw'r cofnod o'r holl gofrestriadau tir yng Nghymru a Lloegr. Mae gan bob cofrestr teitl ei rif ei hun (rhif y teitl) ac fe'i rhennir yn dair rhan:
Mae'r Gofrestrfa Tir hefyd yn llunio cynllun teitl, sy'n dangos lleoliad a maint yr eiddo. Nid yw'r cynllun fel arfer yn dangos pwy sy'n berchen ar y nodweddion terfyn.
Gellwch. Gellir cael manylion eiddo unigol yng Nghymru a Lloegr ar wefan y Gofrestr Tir Ar-lein o dros 19 miliwn o gofnodion cofrestredig am ffi fechan, yn daladwy gyda cherdyn credyd neu ddebyd. Maen nhw'n cynrychioli'r rhan fwyaf o eiddo yng Nghymru a Lloegr. Nid yw'n rhoi manylion unrhyw eiddo sydd heb gael ei gofrestru. Gallwch gysylltu â swyddfeydd lleol y Gofrestr Tir ar y ffôn neu drwy'r ffacs hefyd.
Fel arfer, bydd y wybodaeth ar y Gofrestr yn cynnwys:
Fel rheol, byddwch...
Mae Adroddiad y Gofrestrfa Tir ar Brisiau Eiddo Preswyl, a gyhoeddir yn chwarterol yn ddi-dâl, yn darparu gwybodaeth am brisiau cyfartalog tai. Mae'r adroddiad yn cynnwys prisiau cyfartalog, yn ôl sir, ar gyfer pedwar categori o dw; tw ar wahân, tw pâr, tw teras a fflatiau/maisonettes. Daw'r wybodaeth o'r niferoedd mawr o'r trafodion prynu a gwerthu tai preswyl a gyflwynir yn y Gofrestrfa Tir.
Mae'r wybodaeth ar gael trwy fynd i wefan y Gofrestrfa Tir ond gellir cael rhagor o wybodaeth gan y Ganolfan Gwybodaeth am Eiddo (rhif ffôn 0151 473 6010 ac e-bost: enquiries.pic@landreg.gov.uk).
Bydd gan berchennog tir heb ei gofrestru fwndeli o weithredoedd, sy'n ffurfio cofnod o werthiannau a morgeisi blaenorol ac unrhyw beth arall sydd wedi digwydd i'r tir. Ond, os oes morgais ar y tir, mae'r sawl sy'n benthyca'r morgais fel rheol yn cadw'r gweithredoedd fel gwarant ar gyfer eu benthyciad. Fel arfer, does dim cofnod cyhoeddus o'r wybodaeth sydd yn y gweithredoedd.
Fodd bynnag, yn Middlesex a Ridings Swydd Efrog, sefydlwyd Cofrestrfeydd Gweithredoedd cyn i dir gael ei gofrestru. Roedd y cofrestrfeydd hyn yn cadw cofnodion o rai trafodion tir, ond roedd y gweithredoedd yn cael eu cofrestru yn erbyn enwau'r bobl, yn hytrach nag yn ôl cyfeiriad. I chwilio Cofrestrfa Gweithredoedd, bydd angen i chi wybod enw cyn berchennog neu berchennog cyfredol yr eiddo.
Mae'r Adran Taliadau Tir yn cadw cofnod o gyfamodau cyfyngu, hawliau a morgeisi sy'n gysylltiedig â thir heb ei gofrestru. Mae'r rhain wedi'u cofrestru yn erbyn enw'r tirfeddiannwr adeg gwneud y cofnod, yn hytrach nag yn erbyn y tir neu'r eiddo. Er enghraifft, os ydych eisiau gwybod am gyfamod cyfyngu a gofrestrwyd cyn i chi brynu'r eiddo, bydd angen i chi chwilio yn erbyn enw'r perchennog adeg cofrestru'r cyfamod.
Gallwch gysylltu â'ch awdurdod lleol a gwneud chwiliad o'r gofrestr pridiannau tir leol. Caiff unrhyw un wneud cais am gael chwilio ac efallai y bydd tâl yn gysylltiedig â'r gwasanaeth.
Bydd y ddolen/dolenni isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth.