Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dewis gwerthwr tai a gwneud cynnig

Mae'n rhaid i werthwyr tai sy'n perthyn i gorff llywodraethu ddilyn cod ymarfer. Yma cewch wybod sut mae gwneud cwyn a beth yw'r broses ar gyfer gwneud cynnig ar eiddo

Dewis a gweithio gyda gwerthwr tai

Os ydych chi'n prynu neu'n gwerthu eiddo, byddwch yn defnyddio gwasanaeth gwerthwr tai fel rheol. Os byddwch yn dewis gwerthwr tai sydd wedi'i gofrestru gyda chorff llywodraethu, bydd hyn yn rhoi syniad i chi o'r safonau y maent yn eu harddel yn eu gwaith. Gallwch ddod o hyd i werthwr tai sydd wedi'i gofrestru gyda'r Gymdeithas Genedlaethol Gwerthwyr Tai (NAEA) mewn unrhyw ardal yn y Deyrnas Unedig drwy chwilio ar wefan NAEA. Rhaid i bob gwerthwr tai gydymffurfio â'r Ddeddf Gwerthwyr Tai, pa un a ydynt wedi cofrestru gyda chorff llywodraethu ai peidio.

Rhaid i bob gwerthwr tai berthyn i naill ai'r Gwasanaeth Ombwdsmon Syrfewyr neu'r Ombwdsmon Gwerthwyr Tai, sydd â phrosesau cwyno ar waith. I gael gwybod mwy am sut mae gwneud cwyn, darllenwch ‘Gwerthwyr tai – gwneud cwyn’.

Gwneud cynnig

mae gasympio'n digwydd pan fydd eiddo'n cael ei werthu i brynwr am bris uwch ar ôl derbyn cynnig arall.

Os byddwch yn gwneud cynnig ar eiddo, gwnewch yn siŵr ei fod yn 'amodol ar gontract'. Mae hyn yn golygu y gallwch dynnu'n ôl o'r cytundeb os bydd unrhyw broblemau. Dan y Ddeddf Gwerthwyr Tai, mae rheidrwydd cyfreithiol ar y gwerthwr tai i gyflwyno unrhyw gynnig i'r sawl sy'n gwerthu'r tŷ.

Nid yw cynnig y prynwr yn rhwym dan y gyfraith yng Nghymru a Lloegr, hyd yn oed os caiff ei dderbyn gan y gwerthwr.

Unwaith y derbynnir eich cynnig, gofynnwch am i'r eiddo gael ei dynnu oddi ar y farchnad dros gyfnod y gwerthiant. Mae hwn yn un cam y gallwch ei gymryd er mwyn ceisio osgoi cael eich 'gasympio'. Efallai na fydd y gwerthwr yn fodlon gwneud hyn os nad ydych wedi gwerthu eich eiddo chi.

Allweddumynediad llywodraeth y DU