Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Arolygon adeiladau

Adeg prynu tŷ, mae'n bwysig cael adroddiad gan syrfëwr am gyflwr cyffredinol yr eiddo. Mae'r syrfëwr yn arolygydd adeiladau cymwysedig sy'n gallu canfod unrhyw broblemau neu wendidau gyda'r eiddo yr ydych yn gobeithio'i brynu.

Mathau o arolwg

Mae tri phrif fath o arolwg:

  • prisio: bydd hwn yn cael ei wneud gan eich cwmni morgais os oes angen morgais arnoch i brynu'r eiddo
  • prynwr cartref: dyma arolwg sylfaenol sy'n rhoi trosolwg cyffredinol i chi o'r eiddo
  • strwythurol llawn: a argymhellir ar gyfer eiddo hwn ac eiddo lle mae angen gwaith arno, neu er mwyn cael tawelwch meddwl. Er ei fod yn ddrud, mae'n werth ei gael.

Gallwch gysylltu â'r RICS (Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig) i ddod o hyd i syrfëwr addas yn eich ardal.

Eiddo newydd

Os ydych yn prynu tŷ sy'n llai na 10 oed, efallai ei fod yn dod o dan Gynllun Nod Adeiladu y Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai neu ryw warant arall. Bydd y warant yn trosglwyddo i'r perchennog newydd a bydd yn briodol dim ond ar gyfer rhai diffygion sy'n ymddangos ar ôl gwerthu'r tŷ.

Beth i'w wneud os aiff pethau o chwith

Os canfyddwch broblem gyda'ch pryniant newydd y teimlwch y dylai'r syrfëwr fod wedi'i gweld, gallwch ddwyn y mater i sylw'r RICS, os yw'r syrfëwr yn aelod.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU