Mae llawer o brynwyr cartrefi'n dewis tai sydd wedi'u hadeiladu o'r newydd oherwydd yr ansawdd, y cynaliadwyedd a'r dewis a gynigiant. Os ydych yn ystyried prynu cartref sydd wedi'i adeiladu o'r newydd, dyma restr wirio Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai (NHBC) o bethau i chwilio amdanynt.
Sicrhewch fod yr eiddo wedi'i ddiogelu gan warant dda a ddarperir gan gwmni ag enw da. Diogelir y rhan fwyaf o gartrefi newydd gan yswiriant a gwarant Buildmark 10 mlynedd (y NHBC). Ond mae rhai datblygwyr yn defnyddio darparwyr gwarant eraill a gallant roi manylion llawn y warant sydd ar gael. Gydag eiddo newydd heb warant NHBC neu gyfatebol, sicrhewch fod y dystysgrif rheoli adeiladu derfynol ar gael.
Holwch a yw eich adeiladwr wedi'i gofrestru gyda'r NHBC. Gallwch wneud hyn drwy ffonio llinell gymorth NHBC ar 0845 845 6422 neu drwy edrych ar y Gofrestr ar safle NHBC. Os nad ydy'ch adeiladwr wedi'i gofrestru gyda NHBC, holwch a fyddwch yn cael cynnig gwarant gan gwmni ag enw da arall.
Sicrhewch fod gan yr adeiladwr enw da yn lleol neu'n genedlaethol.
Gofynnwch am gael edrych o gwmpas tai y mae'r adeiladwr wedi'u hadeiladu o'r blaen a siaradwch â chyn gwsmeriaid os oes modd.
Ewch i weld y safle - ydy'r safle'n daclus ac wedi'i reoli'n dda? Bydd hyn yn rhoi cliw arall i chi am agwedd yr adeiladwr a'i ymroddiad i ansawdd.
Os oes angen morgais arnoch, gofynnwch i'r benthyciwr yn gynnar. Cyflogwch gyfreithiwr (neu drawsgludwr trwyddedig) a cheisiwch gyngor proffesiynol os oes gennych amheuon.
Cymerwch eich amser i ddeall gwarant Buildmark.
Unwaith y byddwch wedi cyfnewid contractau, gofynnwch am y dogfennau Buildmark gan eich cyfreithiwr a'u darllen yn ofalus.
Cyn cymryd meddiant o'ch cartref, dylech ei archwilio'n ofalus.
Peidiwch â symud i mewn i'r cartref newydd hyd nes ei fod wedi'i gwblhau'n llwyr. Ar ôl symud i mewn, dylech ei archwilio eto'n drwyadl.
Rhowch wybod i'ch adeiladwr am unrhyw ddiffygion, a hynny ar bapur, a chofiwch gadw copi.
Os ydych mewn anghydfod â'ch adeiladwr, ysgrifennwch at y swyddfa NHBC briodol.
Dylech wastad ystyried cael arolwg strwythurol, yn enwedig os ydy'ch cartref yn fwy na dwy oed a thu allan i gyfnod dwy flynedd gychwynnol gwarant Buildmark.