Mynd i weld yr eiddo rydych chi'n ystyried ei brynu
Un o brif gamau prynu tŷ yw mynd i'w weld. Fodd bynnag, nid yw wastad yn hawdd gwybod sut i baratoi ar gyfer hyn, beth i chwilio amdano, pa gwestiynau i'w gofyn a sut i sicrhau eich bod yn cael y darlun cyflawn. Dyma gyngor a all fod yn ddefnyddiol i chi a rhestr wirio o bethau i chwilio amdanynt a chwestiynau i'w gofyn am yr eiddo a'i leoliad.
Paratoi
Cyn i chi fynd i weld tw, gwnewch waith ymchwil cefndir ar yr eiddo a'r ardal fel nad ydych yn gwastraffu amser yn mynd i weld rhywbeth nad yw'n bodloni'ch anghenion.
Pan fyddwch yn barod i fynd i weld yr eiddo, os oes modd, ewch â rhywun arall gyda chi, rhywun â chwaeth wahanol os yn bosibl a all weld pethau y byddwch chi yn eu methu.
Ewch i weld yr eiddo yn ystod y dydd gan y byddwch yn gallu'i weld yn well a sylwi ar broblemau.
Os ydy'r eiddo'n apelio atoch, trefnwch i fynd i'w weld eto ar wahanol adeg o'r dydd er mwyn cael persbectif gwahanol.
Cofiwch, eich arian chi fydd yn cael ei wario, felly peidiwch â bod ofn gofyn cwestiynau uniongyrchol a di-flewyn-ar-dafod am yr eiddo. Cymerwch eich amser, byddwch yn fusneslyd a pheidiwch â gadael i'r gwerthwr tai neu'r gwerthwr roi pwysau arnoch i roi cynnig.
Peidiwch â mynd i weld gormod o dai mewn un diwrnod.
Y tŷ
Pethau i chwilio amdanynt yn y tŷ a chwestiynau i'w gofyn:
- a oes angen diweddaru'r eiddo - os oes, faint fydd hyn yn ei gostio
- ydy'r eiddo mewn ardal gadwraeth neu yn adeilad rhestredig ac a allai hyn gyfyngu ar unrhyw adnewyddu yn y dyfodol
- ydy'r ystafelloedd yn ddigon mawr ar gyfer eich anghenion - dodrefn ayb
- beth sy'n cael ei gynnwys yn y gwerthiant - tir, garej, dodrefn, gosodion, ayb
- ydy'r golygfeydd yn ddigon da
- beth yw cost y Dreth Gyngor a chostau biliau gwasanaethau ar gyfartaledd megis trydan, dŵr, nwy
- pam fod y rhai sy'n gwerthu'n symud
- oes gwres canolog llawn yn yr adeilad? Os oes, beth yw oed y system
- sut mae'r dŵr yn cael ei gynhesu? Tanc neu foeler cyfun, ayb
- a oes problemau wedi bod gyda'r boeler, pryd y cafodd ei wasanaethu ddiwethaf gan beiriannydd Corgi
- os oes atig yno, ydy'r atig wedi'i inswleiddio? Os ydy, ers pryd
- oes gan yr eiddo inswleiddiad waliau dwbl
- ydy'r eiddo wedi'i newid mewn unrhyw ffordd ac os ydy, ydy'r cydsyniadau cynllunio a rheoli adeiladu ar gael i'w harchwilio
- a oes unrhyw arwydd o ymsuddiant (e.e. craciau mawr yn y waliau neu'r drysau'n glynu)
- oes yna ogla tamp neu unrhyw arwydd arall megis y waliau'n teimlo'n llaith, y papur wal yn codi neu'r paent yn byblo, marciau dŵr neu lwydni
- oes paent wedi cracio ar fframiau'r ffenestri? (Os gallwch wasgu'ch bys yn hawdd i mewn i'r pren, mae wedi pydru)
- ydy'r ystafell wedi'i haddurno'n ddiweddar, os ydy, pam (efallai bod problem oddi tano)
- faint o le storio sydd yno
- a oes digon o bwyntiau trydan, pa mor hen ydyn nhw
- ydy'r lle'n teimlo fel y gallai fod yn gartref ichi
Y lleoliad
Dylech hefyd wneud yn siŵr fod y lleoliad yn bodloni'ch gofynion ac felly dyma rai pethau i feddwl amdanynt:
- wrth ymyl priffyrdd, neu dafarndai, clybiau neu fwytai - gallant fod yn hwylus ond yn swnllyd
- wrth ymyl rheilffyrdd - neu lwybrau hedfan uwchben
- teimlad y gymuned - ydy'r lle'n teimlo'n gyfeillgar
- gwedd y tŷ - a oes digon o olau
- ydy'r eiddo wedi'i gynnal a'i gadw'n dda
- oed yr eiddo
- maint yr ardd
- cyflwr eiddo cyfagos
- pa mor dda neu pa mor agos ydy trafnidiaeth gyhoeddus
- ydy'r ysgolion lleol yn dda
- a oes unrhyw gynlluniau ar gyfer datblygu yn yr ardal
- beth am y cyfleusterau lleol - siopau, ysbytai, cyfleusterau hamdden, ayb
- beth ydy'r lefel droseddu yn yr ardal
- sut rai ydy'r cymdogion? Ydyn nhw'n swnllyd
- a oes anghydfod wedi bod gyda'r cymdogion (neu rywun yn byw gerllaw)