Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Prynwyr am y tro cyntaf

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r farchnad eiddo wedi bod yn symud yn gyflym iawn gan arwain at gynnydd sylweddol ym mhrisiau eiddo. Mae hyn wedi'i gwneud hi'n anodd iawn i lawer allu fforddio prynu cartref. Mae hyn yn broblem neilltuol i brynwyr am y tro cyntaf, oherwydd er y byddant yn gallu codi morgais efallai, ni fydd hwnnw'n aml yn ddigon i dalu cost eiddo.

Troed ar yr ysgol

Fodd bynnag, mae dal yn bosibl i brynwyr am y tro cyntaf gael eu troed ar yr ysgol eiddo ac mae rhai manteision hyd yn oed o fod yn brynwr am y tro cyntaf:

  • mae'r cyfraddau llog ar eu hisaf ers dros 30 mlynedd
  • mae prynwyr am y tro cyntaf yn apelio'n fwy at werthwyr gan nad ydynt mewn cadwyn (hynny ydy, nid ydynt yn rhan o restr hir o bobl i gyd yn ddibynnol ar bob gwerthiant yn y gadwyn yn cael ei wneud ar amser)
  • mae prynwyr am y tro cyntaf yn apelio at fenthycwyr morgeisi

I gael rhagor o gyngor ynghylch sut i gael eich troed yn y farchnad dai fel prynwr am y tro cyntaf, ewch i:

Tai fforddiadwy

Mae'r llywodraeth hefyd yn rhedeg nifer o gynlluniau i helpu pobl gael eu troed yn y farchnad dai, yn arbennig ar gyfer gweithwyr allweddol. Dau o'r cynlluniau hyn yw: Rhaglen Tai i Weithwyr Allweddol sy'n ceisio helpu pobl sy'n gweithio mewn swyddi rheng flaen mewn gwasanaethau cyhoeddus allweddol i brynu neu rentu cartref a Rhan-berchenogaeth, a gyflwynwyd i helpu pobl nad ydynt yn gallu fforddio prynu cartref yn llwyr.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU