Os nad ydych yn gymwys ar gyfer y cynlluniau 'Hawl i Brynu' neu 'Hawl i Gaffael', neu os na allwch eu fforddio, mae dal yn bosib i chi gael cymorth i brynu eich tŷ cyngor neu'ch tŷ cymdeithas dai.
Mae'r Cynllun Cymorth Prynu Tŷ Cymdeithasol yn rhoi cyfle i denantiaid cymwys brynu cyfran o werth marchnad eu cartref presennol ac yn rhoi cyfle iddynt elwa ar rhwng £9,000 a £16,000 o ddisgownt yn dibynnu ar y lleoliad.
Nid yw pob cymdeithas dai neu gyngor lleol yn cynnig y cynllun felly mae'n werth holi'ch cyngor neu'ch cymdeithas dai leol a ydynt yn cynnig y cynllun ai peidio, neu os mae eich cartref yn gynwysedig.
Rhaid i denantiaid brynu o leiaf 25 y cant o werth eu tŷ a thalu rhent o ddim mwy na thri y cant o werth marchnad gweddill yr ecwiti y mae'r landlord yn berchen arno. Codir y tâl hwn yn fisol yn aml. Bydd faint o ddisgownt gewch chi yn gymesur â'r gyfran o'r eiddo yr ydych yn ei brynu.
| Enghreifftiau |
|---|
| Pe bai tŷ cyngor yn werth £240,000, a thenant yn prynu cyfran o 50 y cant, byddai'r tâl a godir gan y landlord (sef tri y cant) yn £3,600 ac felly'n £300 y mis. |
|
Os ydych chi'n gymwys am gyfanswm o £10,000 o ddisgownt gan eich cyngor/landlord cymdeithasol a'ch bod yn dymuno prynu 50 y cant o dŷ sy'n werth £200,000, byddech yn cael disgownt o £5,000 ar eich cyfran chi. |
Rhoddir y disgownt ar y gyfran gyntaf y byddwch yn ei phrynu yn unig, felly drwy brynu'r gyfran fwyaf posib y tro cyntaf, cewch fanteisio ar fwy o ddisgownt. Nid oes uchafswm felly gallech brynu 100 y cant o'r tŷ gyda'r disgownt llawn.
O Ebrill 2008, bydd gan brynwyr newydd yr hawl i ddisgownt ar unrhyw gyfrannau pellach yr ydynt yn eu prynu, nid dim ond ar y gyfran gyntaf. Felly yn yr enghraifft uchod, os byddwch yn prynu 25 y cant pellach, byddwch yn derbyn disgownt pellach o £2,500.
Dim ond os yw'r canlynol yn berthnasol y gallwch gael Cymorth i Brynu Tŷ Cymdeithasol:
Os oes gennych gyd-denantiaeth, gall hyd at dri o bobl wneud cais gyda'i gilydd, cyn belled â'u bod i gyd yn byw gyda'i gilydd yn y tŷ. Efallai y bydd tenantiaethau blaenorol gyda'r cyngor yn cyfrif hyd yn oed os nad oedden nhw'n dilyn ei gilydd yn barhaus.
Rhaid i chi wneud eich cais yn uniongyrchol i'ch landlord (eich cyngor lleol neu gymdeithas dai). Os ydych chi'n denant i'r awdurdod lleol cysylltwch â'ch cyngor lleol. Mae gan y Gorfforaeth Dai restr o bob cymdeithas dai - a elwir hefyd yn Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.
Bydd y ddolen isod yn eich galluogi i chwilio am fanylion cyswllt eich cymdeithas dai yn ôl enw, math a rhif cofrestru.