Os hoffech brynu tŷ sydd wedi ei adeiladu o'r newydd gallwch gael help i fod yn berchen ar ran o dŷ sydd wedi ei adeiladu o'r newydd, neu'r cyfan ohono, ar y farchnad agored drwy gymryd rhan yn y cynllun Cymorth Prynu - Adeiladu o'r Newydd, neu'r cynllun ar gyfer pobl sy'n Prynu Tŷ am y Tro Cyntaf.
Os hoffech brynu tŷ sydd wedi'i adeiladu o'r newydd, gallwch rannu'r gost o brynu eich tŷ drwy gymryd rhan yn y cynllun Cymorth prynu - Adeiladu o'r Newydd. Dan y cynllun hwn byddwch yn prynu o leiaf 25 y cant o'r tŷ, a bydd darparwr y tai yn codi tâl o hyd at uchafswm o dri y cant arnoch bob blwyddyn ar werth y tŷ y mae'n berchen arno.
Mae'n ofynnol eich bod yn gallu prynu o leiaf 25 y cant o'r eiddo. Gallwch brynu rhagor o gyfranddaliadau yn yr eiddo os gallwch eu fforddio. Mae prynu mwy o gyfranddaliadau bob amser ar werth y farchnad.
Os ydych chi'n prynu tŷ am y tro cyntaf efallai y bydd modd i chi gymryd rhan yn y cynllun ar gyfer rhai sy'n Prynu Tŷ am y Tro Cyntaf. Mae'r cynllun hwn yn cael ei gynnal gan English Partnerships i'ch helpu i brynu tŷ sydd wedi ei adeiladu o'r newydd.
Dan y cynllun hwn, dim ond isafswm o 50 y cant o werth y tŷ y byddwch yn ei brynu, a bydd English Partnerships yn codi tâl arnoch am werth yr eiddo sy'n weddill. Telir y tâl hwn ar ôl tair blynedd. Os byddwch yn gwerthu'r tŷ bydd rhaid i chi dalu'r un gyfran ar werth presennol y farchnad i English Partnerships.
Dim ond ar ddatblygiadau tai penodol y mae'r cynllun ar gael, felly holwch yr asiant sy'n gyfrifol am Gymorth Prynu yn eich ardal chi.
Gallech fod yn gymwys:
Yn y rhan fwyaf o achosion bydd angen rhywfaint o arian arnoch (o leiaf £3,500) o hyd er mwyn talu'r costau sy'n gysylltiedig â phrynu tŷ - fel treth stamp a ffioedd cyfreithiol.
Rheolir y cynllun gan asiantau Cymorth Prynu a benodir ar gyfer pob rhan o'r wlad. Bydd ganddynt fanylion am yr holl gynlluniau a gwybodaeth am sut i wneud cais. I gael gwybod mwy am gynlluniau Cymorth Prynu yn eich ardal chi, defnyddiwch y rhestr isod.
Berkshire, Swydd Buckingham a Swydd Rhydychen
Cymorth Prynu
ffôn: 0845 601 7729
Swydd Bedford a Swydd Caergrawnt
(yn cynnwys Fenland a Peterborough, Forest Heath a St Edmundsbury)
Key Homes East
ffôn: 0845 456 6757
Norfolk a Suffolk
(heblaw am Forest Heath a St Edmundsbury)
Orbit First Step
ffôn: 0845 850 2050
Ardal Ogleddol De Orllewin Lloegr
(Caerfaddon a Gogledd Ddwyrain Gwlad yr Haf, Bryste, Cheltenham, Cotswold, Forest of Dean, Gloucester, Kennet, Mendip, Gogledd Gwlad yr Haf, De Swydd Gaerloyw, Stroud, Swindon, Tewkesbury Gogledd Wiltshire a Gorllewin Wiltshire)
Cymorth Prynu - Y De Orllewin
ffôn: 0800 073 1315
Ardal De-ddwyreiniol De Orllewin Lloegr
(Bournemouth, Dorset, Salisbury a De Somerset)
Search4MyPlace
ffôn: 0800 707 6 707
Ardal Penrhyn De Orllewin Lloegr
(Cernyw, Dyfnaint, Taunton a Sedgemoor a Gorllewin Gwlad yr Haf)
Home2Own
ffôn: 01803 217 600
Swydd Northampton
KeyHomes - Dwyrain
ffôn: 0845 456 6757
Swydd Gaerlŷr, Swydd Nottingham a Swydd Derby
East Midlands Housing
ffôn: 0844 892 0112
Swydd Stafford, Swydd Amwythig, Wolverhampton, Walsall, Dudley, Birmingham, Sandwell, Solihull, Coventry a Swydd Warwick
Homebuyagents
ffôn: 0845 607 6726
Tyne a Wear, Northumberland, Dyffryn Tees a Swydd Durham
Nomad Homes
ffôn: 0191 229 7333
Gogledd Swydd Efrog a Humberside
Joseph Rowntree Housing Trust
ffôn: 0800 633 5670
Gogledd Swydd Efrog a Humberside
Joseph Rowntree Housing Trust
ffôn: 0800 633 5670