Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cynllun Cymorth Prynu - Marchnad Agored

Mae'r cynllun 'Cymorth Prynu Marchnad Agored' yn eich galluogi i gael benthyciad yn ogystal â morgais rheolaidd er nad oes gennych flaendal efallai. Gallwch wneud cais am un ar-lein os ydych yn denant tŷ cyngor neu gymdeithas dai, yn Weithiwr Allweddol neu'n brynwr tro cyntaf ac nad ydych yn gallu fforddio prynu tŷ heb gymorth.

Sut mae Cymorth Prynu - Marchnad Agored yn gweithio?

Mae'r cynllun hwn yn darparu 'benthyciadau ecwiti' i'r rheini sy'n gymwys i gael cymorth. Gellir disgrifio benthyciad ecwiti fel benthyciad lle mae'r benthyciwr yn rhannu unrhyw gynnydd (ac weithiau unrhyw ostyngiad) yng ngwerth yr eiddo yn ystod y benthyciad. Daw'r benthyciadau gan ddarparwyr benthyciadau ecwiti, a nhw sy'n eu gweinyddu ar y cyd â'r 'Asiantau Cymorth Prynu'. Mae'r Gorfforaeth Dai, asiantaeth y llywodraeth, yn penodi Asiantau Cymorth Prynu.

Mae'r cynllun Cymorth Prynu Marchnad Agored yn gweithio drwy ddarparu 'benthyciad ecwiti' ar gyfer 50 y cant o werth eich cartref. Gallwch ddewis dau opsiwn gwahanol gyda'r cynllun Cymorth Prynu Marchnad Agored:

  • 'MyChoiceHomeBuy', a ddarperir gan grŵp o wyth cymdeithas dai a elwir yn 'CHASE'
  • 'Ownhome', a ddarperir gan gymdeithas dai o'r enw Places for People, mewn partneriaeth â Co-operative Financial Services (y Banc Cydweithredol)

Pwy all wneud cais?

Gallech fod yn gymwys os ydych yn brynwr tro cyntaf gydag incwm o lai na £60,000 yn dod i'r cartref

Beth allwch chi ei gael?

Mae MyChoiceHomeBuy yn darparu:

  • benthyciad ecwiti rhwng 15 a 50 y cant o werth yr eiddo yr ydych yn bwriadu ei brynu - mae hyn yn golygu y byddai'n rhaid i chi dalu am weddill cost eich eiddo drwy gynilion a/neu forgais a ddarperir gan amrywiaeth o fenthycwyr cymwys sy'n cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol

Mae Ownhome yn darparu:

  • benthyciad ecwiti rhwng 15 a 40 y cant o werth yr eiddo yr ydych yn bwriadu ei brynu - mae hyn yn golygu y byddai'n rhaid i chi dalu am weddill cost eich eiddo drwy gynilion a/neu forgais a ddarperir i ddechrau gan y Banc Cydweithredol

Beth yw'r taliadau llog?

MyChoiceHomeBuy:

  • o'r flwyddyn gyntaf, bydd y taliad llog ar gyfer y benthyciad ecwiti yn cyfateb i 1.75 y cant o werth y benthyciad, a gaiff ei dalu'n fisol
  • bydd y taliad hwn yn cynyddu bob blwyddyn yn ôl swm sy'n cyfateb i'r Mynegrif Prisiau Adwerthol yn ogystal ag 1 y cant
    Mae'r Mynegrif Prisiau Adwerthol yn mesur y newidiadau mewn prisiau dros gyfnod o flwyddyn.

Ownhome:

  • ni chodir tâl llog am y pum mlynedd gyntaf
  • o'r chweched flwyddyn ers cael y benthyciad ecwiti codir tâl llog yn cyfateb i 1.75 y cant a 3.75 y cant o'r unfed flwyddyn ar ddeg ymlaen

A oes angen blaendal arnoch?

Does dim angen blaendal. Fodd bynnag, os oes gennych arian i'w roi tuag at gost yr eiddo, yna gallwch ddefnyddio hwn i leihau eich morgais.

Beth yw'r amodau ad-dalu?

Os ydych chi'n gymwys, does dim rhaid i chi ad-dalu'r arian a ddarperir gan yr Asiant Cymorth Prynu/darparwr benthyciad ecwiti nes eich bod yn gwerthu'ch cartref. Gallwch ei dalu'n ôl yn gynt hefyd, yn rhannol neu'n llawn, ar yr amod eich bod yn cydymffurfio â thelerau eich cytundeb morgais gwreiddiol. Bydd yn rhaid i chi rannu unrhyw gynnydd yng ngwerth eich eiddo gyda'r darparwr benthyciad.

Sut mae gwneud cais

Os ydych yn credu eich bod yn gymwys ac yr hoffech gael rhagor o wybodaeth am y cynllun Cymorth Prynu, cysylltwch â'ch Asiant Cymorth Prynu lleol i weld pa opsiynau sydd ar gael i chi yn eich ardal. Os ydych yn Weithiwr Allweddol, dylech gysylltu ag Asiant Cymorth Prynu ar gyfer yr ardal yr ydych yn gweithio ynddi.

Bydd Asiantaethau Cymorth Prynu yn gallu rhoi cyngor i chi ar p'un a ydych yn gymwys ai peidio ac egluro'r broses o wneud cais. Gallwch hefyd wneud cais yn uniongyrchol i'r darparwyr benthyciadau ecwiti a fydd yn gofyn i chi gwblhau ffurflen gais Cymorth Prynu. Er mwyn cysylltu â'ch Asiant Cymorth Prynu lleol neu'r darparwyr benthyciadau, dylech ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.

Darparwyr benthyciadau

  • Ownhome – ffoniwch 0845 607 0110
  • MyChoice HomeBuy (CHASE) - gellir cysylltu â hwy drwy eich Asiant Cymorth Prynu lleol

Anabledd a chynlluniau Cymorth Prynu

Ceir dewis hefyd i bobl sydd ag anableddau tymor hir i brynu tŷ ar sail rhan-berchnogaeth. Os ydych yn credu y gallai hyn fod yn berthnasol i chi, yna defnyddiwch y ddolen isod a chysylltwch â'r Asiant Cymorth Prynu yn eich ardal.

Allweddumynediad llywodraeth y DU