Os ydych chi'n weithiwr allweddol yn y sector cyhoeddus - yn nyrs neu'n athro/athrawes er enghraifft - gallech gael cymorth i brynu neu rentu cartref fel rhan o'r Rhaglen Tai i Weithwyr Allweddol. Dewch i gael gwybod a ydych yn gymwys, ac â phwy y dylech gysylltu os ydych chi'n dymuno gwneud cais.
Os ydych chi'n gymwys, mae'r Rhaglen Tai i Weithwyr Allweddol yn golygu y gallwch gael cymorth i fod yn berchen ar dŷ:
Mae'r cynllun ar gael i weithwyr allweddol penodol yn Llundain ac yn Ne Ddwyrain a Dwyrain Lloegr yn unig.
Mae'r cynllun yn cynnig tri gwahanol fath o help:
Cymorth Prynu - Marchnad Agored
'Benthyciad ecwiti' i helpu i brynu tŷ ar y farchnad agored. Gall hyn fod hyd at 50 y cant o gyfanswm gwerth yr eiddo. Gellir disgrifio benthyciad ecwiti fel benthyciad lle mae'r benthyciwr yn rhannu unrhyw gynnydd (ac weithiau unrhyw ostyngiad) yng ngwerth yr eiddo yn ystod y benthyciad.
Cymorth Prynu - Tŷ Newydd
Os ydych chi'n gymwys cewch brynu o leiaf 25 y cant o gost eich tŷ a thalu rhent gostyngol ar y gyfran sy'n weddill.
Rhentu canolradd
Gosodir y rhent ar lefel sydd rhwng y swm a godir gan landlordiaid cymdeithasol a landlordiaid preifat, a darperir y llety gan landlord sydd wedi'i gofrestru gyda'r Gorfforaeth Tai (Landlord Cymdeithasol Cofrestredig).
Mae'r rhaglen yn gyfyngedig i weithwyr allweddol yn yr ardaloedd canlynol:
Dyma rai swyddi sy'n cyfrif fel swyddi gweithwyr allweddol:
Os ydych chi'n meddwl eich bod yn gymwys ac am gael gwybod mwy am y cynllun Cymorth Prynu, cysylltwch â'ch Asiant Cymorth Prynu lleol i gael gwybod pa opsiynau sydd ar gael yn eich ardal chi. Os ydych chi'n Weithiwr Allweddol, dylech gysylltu ag Asiant Cymorth Prynu yn yr ardal yr ydych yn gweithio ynddi.
Bydd Asiantau Cymorth Prynu yn gallu dweud wrthych a ydych yn gymwys ai peidio ac yn gallu'ch tywys drwy'r broses ymgeisio. I gysylltu â'ch Asiant Cymorth Prynu lleol neu'r darparwyr benthyciadau, dilynwch y ddolen isod.