Os hoffech gymryd rhan yn ein harolwg wefan ymwelydd, a wnewch chi ymweld â'r safle ac wedyn dod yn �l a dewis y ddolen hon i gymryd rhan yn yr arolwg.

Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cynlluniau perchenogaeth tai cost isel

Os ydych chi'n denant i'r cyngor neu'n denant i gymdeithas dai, yn weithiwr allweddol neu'n prynu tŷ am y tro cyntaf, mae ystod o gynlluniau ar gael i'ch helpu i gael eich troed ar yr ysgol dai. Defnyddiwch y canllaw hwn i ganfod pa gynlluniau allai fod ar gael i chi.

Pwy sy’n gymwys

Ceir sawl ffordd wahanol o gael cymorth i brynu cartref os na allwch fforddio prynu un. Bydd gan bob cynllun unigol ei feini prawf ei hun – felly edrychwch ar fanylion pob cynllun gyda'ch landlord neu'r asiant Cymorth Prynu perthnasol. Gallech fod yn gymwys:

  • os ydych chi'n denant i'r cyngor
  • os ydych chi'n denant i gymdeithas dai
  • os ydych chi ar restr dai, yn aros am dŷ rhent gan y cyngor neu gan gymdeithas dai
  • os ydych chi'n weithiwr allweddol (ee athro neu swyddog o'r heddlu)
  • os ydych chi'n ceisio prynu tŷ am y tro cyntaf ond yn methu â fforddio gwneud hynny, fel y nodir gan y Bwrdd Tai Rhanbarthol

Mathau o gynlluniau

Cynlluniau disgownt


Cynigir y rhain gan landlordiaid cymdeithasol (tenantiaid y cyngor a thenantiaid cymdeithasau tai). Byddant yn rhoi cyfle i'r tenantiaid brynu'r tŷ y maent yn ei rentu am bris gostyngol. Cyfrifir y gostyngiad hwnnw yn ôl lle'r ydych yn byw.

Dyma'r tri phrif gynllun disgownt: ‘Hawl i Brynu’ i denantiaid y cyngor, ‘Hawl i Gaffael’ i denantiaid cymdeithasau tai a'r cynllun Cynllun Cymorth Prynu - Tŷ Cymdeithasol. Defnyddiwch y ddolen isod i gael mwy o wybodaeth am y cynlluniau.

  • Y Cynllun Hawl i Brynu - cymorth i brynu'ch tŷ cyngor eich hun
  • Hawl i Gaffael - cymorth i brynu'ch tŷ gan gymdeithas dai
  • Cymorth Prynu - Tŷ Cymdeithasol - cymorth i brynu cyfran o'ch tŷ cyngor neu'ch tŷ cymdeithas dai os yw'ch landlord yn cymryd rhan yn y cynllun.

Cynlluniau Cymell Ariannol

Efallai y bydd eich cyngor hefyd yn gweithredu cynllun cymell ariannol lle maent yn cynnig arian i chi am symud i dŷ llai, fel y gallant roi'r tŷ hwnnw i bobl eraill ar eu rhestrau aros y mae angen mwy o le arnynt. Mae manylion y cynllun yn amrywio o'r naill gyngor i'r llall, ac nid yw pob cyngor yn cynnig y cynllun. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag adran dai eich cyngor lleol.

Cymorth Prynu

Lansiwyd y cynllun Cymorth Prynu ym mis Ebrill 2006. Mae'n galluogi tenantiaid tai cymdeithasol, gweithwyr allweddol a phobl sy'n prynu tai am y tro cyntaf sydd â blaenoriaeth, i brynu cyfran o gartref a chael rhoi troed ar yr ysgol dai.

Ceir tri math o gynllun Cymorth Prynu, a phob un yn seiliedig ar rannu ecwiti er mwyn rhoi cynnig i bobl ddewis y math o dŷ y gallant ei brynu. Y rhain yw:

  • Cymorth Prynu - Tŷ Cymdeithasol, sy'n galluogi tenantiaid awdurdodau lleol a thenantiaid cymdeithasau tai i brynu cyfran o'u cartref presennol am bris gostyngol
  • Cymorth Prynu - Tŷ Newydd, sy'n galluogi pobl i brynu cyfran o dŷ sydd newydd gael ei adeiladu a thalu rhent ar y gweddill (mae hyn yn cynnwys y Cynllun ar gyfer Pobl sy'n Prynu Tŷ am y Tro Cyntaf, sy'n defnyddio tir y sector cyhoeddus)
  • Cymorth Prynu - Marchnad Agored, sy'n galluogi pobl i brynu eiddo ar y farchnad agored gyda chymorth benthyciad ecwiti

Mae'r cynllun yn helpu'r grwpiau blaenoriaeth canlynol:

  • tenantiaid cyngor a thenantiaid cymdeithasau tai, a'r rheini sydd ar y gofrestr dai, sy'n cael blaenoriaeth gan gyngor neu gan gymdeithas dai o ran cael cartref i'w rentu
  • Gweithwyr allweddol: y rheini sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus ym maes iechyd, addysg neu ddiogelwch yn y gymuned - megis athrawon, nyrsys a swyddogion yr heddlu - mewn ardaloedd lle mae prisiau tai uchel yn effeithio ar y sefyllfa recriwtio a chadw gweithwyr. Bydd angen ad-dalu unrhyw gymorth os bydd y sawl â'i derbyniodd yn gadael eu swydd mewn meysydd cymwys
  • Prynwyr am y tro cyntaf : aelwydydd na all fforddio prynu eu cartrefi eu hunain, y nodwyd eu bod yn gymwys ar gyfer cymorth gan y Bwrdd Tai Rhanbarthol

Mae angen i ymgeiswyr sydd â diddordeb gysylltu â'r asiant Cymorth Prynu perthnasol yn eu hardal i gael mwy o wybodaeth.

Cynghorir tenantiaid sydd â diddordeb yn y dewis Cymorth Prynu - Tŷ Cymdeithasol i gysylltu â'u landlord i gael gwybod a yw'r cynllun ar gael iddyn nhw.

 

Asiantau Cymorth Prynu

Cymdeithasau tai a benodwyd yw'r asiantau Cymorth Prynu. Maent yn bwynt cyswllt ar gyfer dewisiadau tai fforddiadwy. Gallant ddelio â'r broses ymgeisio ar gyfer Cymorth Prynu - Marchnad Agored a Chymorth Prynu - Tŷ Newydd yn eu cyfanrwydd.

Fe gewch hyd i asiant Cymorth Prynu lleol drwy ddilyn y ddolen isod.

Prynu eich cartref

Mae prynu tŷ yn ymrwymiad ariannol mawr. Rhaid talu costau uniongyrchol, fel ffioedd cyfreithiol a Threth Stamp ar Dir, yn ogystal â chostau newydd parhaus, fel talu'r morgais, talu am atgyweirio a ffioedd gwasanaeth. Gallwch gyfrifo rhai o'r costau posib sy'n gysylltiedig â phrynu'ch tŷ drwy ddarllen ‘Cynllunio i brynu cartref’.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU