Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Pecynnau Gwybodaeth am y Cartref: canllaw i brynwyr

Bydd Pecyn Gwybodaeth am y Cartref yn rhoi gwybodaeth i chi am eiddo cyn i chi benderfynu gwneud cynnig. Gan ddechrau ar 6 Ebrill 2009, bydd newidiadau pwysig yn cael eu gwneud i Becynnau Gwybodaeth am y Cartref. Mae hyn yn golygu y bydd gwell gwybodaeth ar gael o'r diwrnod cyntaf y rhoddir eiddo ar y farchnad.

Beth yw Pecynnau Gwybodaeth am y Cartref?

Dim ond yng Nghymru a Lloegr y mae Pecynnau Gwybodaeth am y Cartref ar gael. Cyn i Becynnau Gwybodaeth am y Cartref gael eu cyflwyno, fel arfer, byddai'n rhaid i brynwyr aros nes iddynt wneud cynnig ffurfiol cyn gweld gwybodaeth hanfodol am yr eiddo. Fel prynwr, byddai'n rhaid i chi fel arfer wneud cais am yr wybodaeth hon a thalu amdani eich hun. Bydd y Pecyn Gwybodaeth am y Cartref yn rhoi cyfle i chi weld y dogfennau pwysig hyn am ddim cyn i chi wneud cynnig. Pan fydd gennych ddiddordeb mewn eiddo, dylech ofyn am gael gweld y Pecyn Gwybodaeth am y Cartref.

Gan ddechrau ar 6 Ebrill 2009, rhaid i'r Pecyn Gwybodaeth am y Cartref fod ar gael ar y diwrnod cyntaf y rhoddir eiddo ar y farchnad.

Beth yw Pecyn Gwybodaeth am y Cartref?

Gweld enghraifft o Becyn Gwybodaeth am y Cartref

Mae'r Pecyn Gwybodaeth am y Cartref yn cynnwys eitemau gofynnol (gorfodol) ac eitemau wedi'u hawdurdodi (dewisol).

Ni ddylai'r pecyn gynnwys unrhyw ddeunydd marchnata na hysbysebu, felly gwnewch yn siŵr mai dim ond gwybodaeth swyddogol sydd ynddo.

Isod, ceir rhestr o'r holl ddogfennau gorfodol y mae angen eu cynnwys yn y Pecyn:

  • Mynegai'r Pecyn Gwybodaeth am y Cartref
  • Holiadur Gwybodaeth am yr Eiddo (PIQ), o 6 Ebrill 2009 ymlaen
  • Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) neu Asesiad Rhagfynegi Defnydd Ynni (PEA)
  • gwybodaeth am gynaliadwyedd (gofynnol ar gyfer cartrefi sydd newydd gael eu hadeiladu)
  • datganiad gwerthu
  • tystiolaeth o deitl
  • chwiliadau safonol (awdurdod lleol a draenio a dŵr)
  • copi o'r les ar gyfer eiddo lesddaliad
  • dogfennau cyfunddaliad, lle mae hynny'n briodol

I gael canllaw cyflawn i'r dogfennau gorfodol a dewisol, dilynwch y dolenni isod.

Beth mae angen i chi ei wneud?

Holwch pwy bynnag sy'n hysbysebu'r eiddo sydd ar werth am gopi o'r Pecyn Gwybodaeth am y Cartref. Y gwerthwr tai fydd hwn fel rheol, ond fe allai fod yn fusnes neu'n unigolyn arall.

Rhaid iddynt roi copi o'r Pecyn Gwybodaeth am y Cartref i chi am ddim os gofynnwch amdano. Fodd bynnag, efallai y byddant yn codi tâl rhesymol er mwyn talu am gostau copïo a phostio.

Dylech gael eich copi o'r Pecyn Gwybodaeth am y Cartref o fewn 14 diwrnod i chi ofyn.

Mynd drwy'r Pecyn Gwybodaeth am y Cartref

Dylech wneud yn siŵr nad oes dogfen orfodol ar goll. Os oes unrhyw beth ar goll, gwnewch yn siŵr y ceir esboniad boddhaol a sicrwydd y darperir yr eitemau sydd ar goll mor fuan â phosib.

Os byddwch yn penderfynu dechrau trafod prynu eiddo, dylech roi'r Pecyn Gwybodaeth am y Cartref i'ch twrnai. Bydd yn ddefnyddiol iddynt ar gyfer eu hymholiadau cyn-contract.

Beth fydd cost Pecyn Gwybodaeth am y Cartref?

Os ydych chi’n brynwr, dim: cewch gopi o'r Pecyn Gwybodaeth am y Cartref am ddim ar gyfer unrhyw eiddo y mae gennych ddiddordeb ynddo. Fodd bynnag, mae'n bosib y gofynnir i chi dalu costau copïo a phostio. Nid oes raid i chi wneud cynnig ar eiddo cyn gofyn am gopi.

Ni cheir codi tâl arnoch am y Dystysgrif Perfformiad Ynni - rhaid iddi gael ei darparu am ddim.

Beth allwch chi ei wneud os nad oes Pecyn Gwybodaeth am y Cartref/Tystysgrif Perfformiad Ynni ar gael?

Rhaid i werthwyr neu'u hasiantau ddarparu'r pecyn o fewn 14 diwrnod ar ôl i brynwr ofyn amdano. Gall gwerthwr wrthod darparu copi mewn rhai achosion prin. Fel arfer, bydd hyn pan fydd gwerthwr yn credu:

  • nad yw'r unigolyn sy'n gwneud y cais yn gallu fforddio'r eiddo
  • nad oes gan yr unigolyn ddiddordeb gwirioneddol mewn prynu'r eiddo
  • nad yw'r unigolyn yn rhywun y byddai'r gwerthwr yn dymuno gwerthu'r eiddo iddo (ond nid yw hyn yn caniatáu iddynt wahaniaethu yn erbyn rhywun yn anghyfreithlon)

Os oes rhywun yn gwrthod rhoi copi o'r pecyn i chi, a hynny'n anghyfreithlon, gall swyddogion safonau masnach eich awdurdod lleol eich helpu.

Additional links

Arbed Arian
Arbed Ynni

Ewch i dudalen LLEIHAU'CH CO2 i ganfod ffyrdd hawdd o arbed arian ac ynni

Allweddumynediad llywodraeth y DU