Mae'r Pecyn Gwybodaeth am y Cartref yn orfodol ar gyfer y rhan fwyaf o gartrefi sydd ar y farchnad yng Nghymru a Lloegr. O fis Ebrill 2009 ymlaen, bydd newidiadau pwysig yn cael eu gwneud i Becynnau Gwybodaeth am y Cartref. Mae hyn yn golygu y bydd gwell gwybodaeth ar gael o'r diwrnod cyntaf y rhoddir eiddo ar y farchnad.
Mae Pecynnau Gwybodaeth am y Cartref yn ofyn cyfreithiol ac ni chewch farchnata eich eiddo heb un. Mae'r Pecyn Gwybodaeth am y Cartref yn gadael i brynwyr weld gwybodaeth bwysig am yr eiddo ar ddechrau'r broses, yn rhad ac am ddim.
Mae hyn yn golygu y bydd llai o siawns i'r prynwr gael 'sioc' ar ddiwedd y broses. Gall y Pecyn Gwybodaeth am y Cartref helpu i leihau oedi a chostau ychwanegol i'r prynwr ac i'r gwerthwr.
Ni fydd arnoch angen Pecyn Gwybodaeth am y Cartref ar gyfer:
Gweler 'Cynlluniau perchnogaeth tai cost isel - cyflwyniad' i gael mwy o wybodaeth am y cynlluniau Hawl i Brynu, Hawl i Gaffael a Cymorth Prynu Tŷ Cymdeithasol.
Bydd angen i chi ddarparu Pecyn Gwybodaeth am y Cartref ar gyfer eiddo sydd newydd gael ei adeiladu. I gael manylion beth y mae angen ei ddarparu ar gyfer eiddo sydd newydd gael ei adeiladu, dilynwch y ddolen isod.
Gweld enghraifft o Becyn Gwybodaeth am y Cartref
Mae'r Pecyn Gwybodaeth am y Cartref yn cynnwys eitemau gofynnol (gorfodol) ac eitemau wedi'u hawdurdodi (dewisol).
Ni ddylai'r pecyn gynnwys unrhyw ddeunydd marchnata na hysbysebu, felly gwnewch yn siŵr mai dim ond gwybodaeth swyddogol sydd ynddo.
O 6 Ebrill 2009 ymlaen, rhaid sicrhau bod y Pecyn Gwybodaeth am y Cartref ar gael ar y diwrnod cyntaf y rhoddir eiddo ar y farchnad, a'i fod yn cynnwys y dogfennau canlynol:
Os nad yw'r dogfennau canlynol ar gael pan mae'r eiddo'n dechrau cael ei farchnata, dylid eu hychwanegu at y Pecyn Gwybodaeth am y Cartref mor fuan â phosib. Rhaid cynnwys y dogfennau hyn o fewn 28 diwrnod i'r dyddiad y rhoddwyd yr eiddo ar y farchnad:
I gael gwybodaeth fanylach am y dogfennau gorfodol a'r dogfennau dewisol a sut mae cael gafael arnynt, dilynwch y dolenni isod.
Os oes arnoch angen Pecyn Gwybodaeth am y Cartref, gallwch ddewis unrhyw un o'r dewisiadau canlynol:
Os ydych chi'n comisiynu Pecyn Gwybodaeth am y Cartref, dylech holi beth sydd ar gael gan fod prisiau'n amrywio, a dylech edrych ar delerau ac amodau eich contract. Dylech sicrhau bob amser bod darparwr eich Pecyn Gwybodaeth am y Cartref wedi'i gofrestru ar god ymarfer, megis y Cod Pecynnau Gwybodaeth am y Cartref.
Dilynwch y dolenni isod i gael mwy o wybodaeth am Becynnau Gwybodaeth am y Cartref, gan gynnwys faint maent yn ei gostio, sut mae talu amdanynt, am faint maen nhw'n para, a sut maent yn edrych.