Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Pecynnau Gwybodaeth Cartref: eitemau gorfodol

Mae Pecynnau Gwybodaeth am y Cartref yn cynnwys cyfres o ddogfennau gofynnol (gorfodol) a dogfennau wedi'u hawdurdodi (dewisol). Rhaid i'r Pecyn Gwybodaeth am y Cartref gynnwys mynegai, datganiad gwerthu, tystiolaeth o deitl, Tystysgrif Perfformiad Ynni a chwiliadau safonol. O 6 Ebrill 2009 ymlaen, bydd angen cynnwys holiadur Gwybodaeth am yr Eiddo hefyd.

Dogfennau gorfodol ar gyfer Pecyn Gwybodaeth am y Cartref

Rhaid i'r dogfennau canlynol, sydd wedi'u rhifo o un i saith, gael eu cynnwys mewn Pecyn Gwybodaeth am y Cartref. Rhaid cynnwys copi o'r les a'r dogfennau cyfunddaliad pan fydd hynny'n briodol.

1: Mynegai'r Pecyn Gwybodaeth am y Cartref

Mae'r Mynegai'n rhestru'r dogfennau a geir yn y Pecyn Gwybodaeth am y Cartref ac yn rhoi rhestr wirio i werthwyr, i brynwyr, i werthwyr tai ac i awdurdodau gorfodi.

Os nad yw dogfen sy'n gorfod cael ei chynnwys yn y Pecyn Gwybodaeth am y Cartref ar gael, rhaid i'r Mynegai ddweud hynny, nodi'r rheswm pam nad yw'r ddogfen yn y Pecyn a rhestru pa gamau sy'n cael eu cymryd i'w chael.

Dylai'r Mynegai gael ei diweddaru pryd bynnag mae dogfennau'n cael eu hychwanegu neu'u tynnu.

2: Holiadur Gwybodaeth am yr Eiddo (PIQ)

Y gwerthwr sy'n llenwi'r Holiadur Gwybodaeth am yr Eiddo. Mae'n rhoi gwybodaeth syml am yr eiddo - gwybodaeth y mae ei hangen ar brynwyr cyn y gallant wneud penderfyniad am yr eiddo.

Ewch i 'Pecynnau Gwybodaeth am y Cartref: rhoi Pecyn Gwybodaeth am y Cartref at ei gilydd' i gael mwy o wybodaeth am yr Holiadur Gwybodaeth am yr Eiddo a sut mae ei lenwi.

3: Tystysgrif Perfformiad Ynni/Asesiad Rhagfynegi Defnydd Ynni

Mae'r Dystysgrif Perfformiad Ynni yn rhoi gwybodaeth i berchnogion tai, i denantiaid ac i brynwyr am effeithlonrwydd ynni eu heiddo.

Bydd angen cynnwys Asesiad Rhagfynegi Defnydd Ynni yn achos cartrefi newydd sy'n cael eu gwerthu cyn iddynt gael eu cwblhau. Dylai Tystysgrif Perfformiad Ynni ddisodli'r Asesiad Rhagfynegi Defnydd Ynni pan fydd yr eiddo wedi cael ei gwblhau.

4: Gwybodaeth am gynaliadwyedd ar gyfer cartrefi sydd newydd gael eu hadeiladu

Mae'r Cod Cartrefi Cynaliadwy yn mesur effaith amgylcheddol tŷ newydd yn erbyn naw categori. Nid yw gofynion y cod ond yn berthnasol i gartrefi newydd lle mae cyngor lleol wedi cael rhybudd adeiladu, rhybudd cychwynnol neu gais cynllunio llawn ar ôl 1 Mai 2008.

Mae'n ofynnol bod gan dai newydd:

  • dystysgrif (neu dystysgrif interim) sy'n dangos cynaliadwyedd y cartref wedi'i asesu yn erbyn y safonau dan y Cod Cartrefi Cynaliadwy, neu
  • dystysgrif sy'n dangos nad yw'r eiddo wedi cael ei asesu yn erbyn y Cod

5: Datganiad gwerthu

Mae'r datganiad gwerthu yn darparu gwybodaeth sylfaenol am yr eiddo, gan gynnwys:

  • cyfeiriad yr eiddo sy'n cael ei werthu
  • p'un ai rhydd-ddaliad, lesddaliad ynteu cyfunddaliad yw'r eiddo
  • a yw'r eiddo wedi'i gofrestru ai peidio
  • p'un ai a yw'r eiddo'n wag pan mae'n cael ei werthu, er enghraifft gan fod ganddo denant cyfredol
  • ym mha gapasiti y mae'r gwerthwr yn gwerthu'r eiddo (er enghraifft, gwerthu ar ran y perchennog ymadawedig)

6: Tystiolaeth o deitl

Mae'r dogfennau hyn yn profi pwy sy'n berchen ar yr eiddo.

Eiddo cofrestredig

Os yw'r eiddo wedi'i gofrestru, rhaid cynnwys rhai dogfennau sydd ar gael ar gais gan y Gofrestrfa Tir yn y Pecyn Gwybodaeth am y Cartref. Mae'r rhain yn darparu cofnod swyddogol a chyfredol o bwy sy'n berchen ar y tir, ac maent yn cynnwys:

  • copïau swyddogol o'r gofrestr unigol (sy'n cynnwys cofrestr eiddo, cofrestr perchnogaeth ac, fel rheol, cofrestr pridiannau)
  • copi swyddogol o'r cynllun teitl (title plan)

Mewn achos gwerthu cyfunddaliad, dylid cyflwyno copïau swyddogol o'r gofrestr a'r cynllun teitl ar gyfer yr uned ac ar gyfer y rhannau cyffredin.

Tir heb ei gofrestru

Wrth werthu tir heb ei gofrestru, rhaid i'r Pecyn Gwybodaeth am y Cartref gynnwys copïau o dystysgrif chwiliad swyddogol o'r map cyfeirnod (gan y Gofrestrfa Tir). Hefyd, rhaid iddo gynnwys y dogfennau y mae'r gwerthwr yn bwriadu dibynnu arnynt i ddarparu tystiolaeth o deitl i'r eiddo a'r hawl i'w werthu.

I ddysgu mwy am dir cofrestredig a thir heb ei gofrestru, cysylltwch â'r Gofrestra Tir.

7: Chwiliadau safonol

Rhaid i'r Pecyn Gwybodaeth am y Cartref gynnwys:

Chwiliad o'r gofrestr pridiannau tir lleol ar gyfer yr eiddo sy'n cael ei werthu

Cynhelir y chwiliad gan gyngor lleol neu gan gwmni chwilio personol a byddwch yn cael tystysgrif chwilio swyddogol.

Chwiliad o'r cofnodion sydd gan yr awdurdod lleol ar faterion o ddiddordeb i brynwyr

Mae hyn yn cynnwys penderfyniadau ar gynllunio a chynigion i adeiladu ffyrdd. Cyfeirir at y rhain fel ymholiadau lleol yn Rheoliadau'r Pecyn Gwybodaeth am y Cartref ac fe'u cynhelir gan awdurdod lleol neu gan gwmni chwilio personol.

Manylion darparu draeniau a gwasanaethau dŵr i'r eiddo

Gellir defnyddio'r cwmni dŵr lleol neu gwmni chwilio personol (fodd bynnag, rhaid i'r chwiliad gydymffurfio â Rheoliadau'r Pecyn Gwybodaeth am y Cartref).

Gweler yr adran 'Dod o hyd i'ch cyngor lleol neu i gwmni chwilio personol' yn 'Pecynnau Gwybodaeth am y Cartref: Roi Pecyn Gwybodaeth am y Cartref at ei gilydd' i gael mwy o wybodaeth am chwiliadau tir.

Eiddo ar brydles ac ar gyfunddaliad

Yr unig ddogfen ychwanegol sy'n ofynnol mewn Pecyn Gwybodaeth am y Cartref wrth werthu eiddo lesddaliad yw copi o'r les.

Cewch yma wybod am ddogfennau gorfodol a dogfennau dewisol ar gyfer eiddo lesddaliad ac eiddo cyfunddaliad.

Allweddumynediad llywodraeth y DU