Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Pecynnau Gwybodaeth Cartref: eitemau dewisol

Caiff dwy fath o ddogfen eu cynnwys mewn Pecyn Gwybodaeth am y Cartref: gofynnol (gorfodol) ac wedi'i hawdurdodi (dewisol). Penderfyniad y gwerthwr yw a fydd yn cynnwys y dogfennau dewisol hyn. Gallai hyn gynnwys Adroddiad Cyflwr y Cartref, a chrynodeb cyfreithiol neu ffurflen cynnwys y cartref.

Adroddiad Cyflwr Cartref

Mae Adroddiad Cyflwr y Cartref yn cynnwys gwybodaeth am gyflwr ffisegol yr eiddo, a gall gwerthwyr, prynwyr a benthycwyr ddibynnu ar yr adroddiad fel un sy'n gyfreithiol gywir.

Mae'n debyg i Arolwg Prynwr a gall wneud y prynwr a'r gwerthwr yn ymwybodol o unrhyw waith neu atgyweiriadau sydd angen eu gwneud i'r eiddo.

Yr adroddiad:

  • rhaid iddo gael ei gyflawni gan Arolygwr Cartrefi ardystiedig
  • rhaid iddo gael ei ysgrifennu mewn iaith syml a heb ddefnyddio iaith dechnegol gymhleth
  • mae'n rhoi gwybodaeth gynhwysfawr i chi ar waith ac atgyweiriadau sydd angen eu gwneud i'r eiddo, gan leihau'r siawns o sioc annymunol yn nes ymlaen

Manteision Adroddiad Cyflwr Cartref

Gwerthwyr

Bydd gennych gyfle i wneud gwaith atgyweirio ar yr eiddo neu gael dyfynbris mewn da bryd cyn rhoi'ch tŷ ar y farchnad. Drwy roi syniad cliriach i brynwyr am eich eiddo, mae'n lleihau'r perygl o brynwr yn tynnu allan yn nes ymlaen yn y broses o ganlyniad i broblem annisgwyl ac mae'n cynnig pwynt gwerthu ychwanegol i'ch eiddo.

Prynwyr

Os yw'r gwerthwr wedi cynnwys Adroddiad Cyflwr y Cartref, gallwch ei ddefnyddio ar ddechrau'r broses o brynu tŷ er mwyn osgoi'r perygl o wynebu biliau atgyweirio annisgwyl a phroblemau eraill pan fyddwch yn prynu'r eiddo.

Mae gan brynwyr a'u benthycwyr morgeisi hawl cyfreithiol i ddibynnu ar yr adroddiad, felly gallwch roi'r adroddiad i fenthycwyr pan fyddant yn prisio'r eiddo. Golyga hyn na fydd yn rhaid i chi dalu iddyn nhw i ailwneud arolwg manwl o'r safle.

Adroddiad Cyflwr Cartref Enghreifftiol

I weld Adroddiad Cyflwr Cartref enghreifftiol, dilynwch y ddolen isod.

Canfod Arolygydd Cartrefi

Rhaid i'r adroddiad gael ei gyflawni gan Arolygydd Cartrefi ardystiedig. I ganfod Arolygydd Cartrefi, dilynwch y ddolen isod.

Crynodeb cyfreithiol

Gall y Pecynnau Gwybodaeth am y Cartref gynnwys rhai dogfennau cymhleth a all fod yn anodd eu deall. Gall y Pecyn Gwybodaeth am y Cartref gynnwys crynodeb cyfreithiol dewisol, sy'n grynodeb syml o'r holl ddogfennau cyfreithiol. Bydd twrnai neu ddarparwr Pecyn Gwybodaeth am y Cartref yn gallu darparu crynodeb cyfreithiol.

Ffurflenni cynnwys/defnydd cartref

Mae'r ffurflen Cynnwys y cartref yn galluogi gwerthwyr i gynnig gwybodaeth i brynwyr ar bob math o bethau yn gysylltiedig â'r eiddo.

Mae'n arferol i werthwyr ddatgan pa osodiadau a ffitiadau a phethau eraill yn yr eiddo sydd:

  • wedi'u cynnwys yn y gwerthiant
  • wedi'u hepgor o'r gwerthiant
  • yn agored i'w trafod

Chwiliadau

Mae angen i'r chwiliadau safonol gael eu cynnwys yn y Pecynnau Gwybodaeth am y Cartref, ond gallant hefyd gynnwys chwiliadau ansafonol. Gall hyn yn aml gyflymu'r broses werthu.

Er enghraifft, mae'n drefn safonol i gael chwiliad mwyngloddio mewn ardaloedd lle bu cloddio am lo. Gallai gwerthwyr yn yr ardaloedd hyn arbed amser os byddant yn darparu'r chwiliad hwn yn y Pecyn Gwybodaeth am y Cartref.

Mae chwiliadau ansafonol eraill yn cynnwys hawliau tramwy, sadrwydd y tir, a pheryglon amgylcheddol posib neu bresennol megis llifogydd a thir halogedig.

Gwarantau a gwarantiadau

Mae'n bosib y bydd gwarantau a gwarantiadau ar gyfer gwaith sydd wedi'i wneud ar eich cartref eisoes, megis atal tamprwydd, wedi'u cynnwys yn y Pecyn Gwybodaeth am y Cartref.

Dogfennau gorfodol

Edrychwch dros y dogfennau gofynnol sy'n rhaid eu cynnwys mewn Pecyn Gwybodaeth am y Cartref.

Allweddumynediad llywodraeth y DU