Gwaith Arolygydd Cartrefi yw creu Adroddiadau Cyflwr Cartrefi a Thystysgrifau Perfformiad Ynni, ond dim ond Tystysgrifau Perfformiad Ynni y bydd Aseswyr Ynni Domestig yn eu darparu. Ceir nifer o gynlluniau ardystio ac achredu er mwyn helpu i ddiogelu prynwyr a gwerthwyr tai.
Cyn i berson allu dechrau gweithio fel Asesydd Ynni Domestig, rhaid iddynt fod wedi cael eu hachredu gan un o'r cynlluniau achredu sydd wedi'u cymeradwyo. Ymysg pethau eraill, mae’r cynlluniau hyn yn sicrhau bod Aseswyr Ynni Domestig:
Sut mae cwyno
I ddechrau, dylech gwyno i'r Asesydd Ynni Domestig a gynhaliodd yr asesiad. Gallan nhw roi copi o'u gweithdrefn gwyno i chi.
Os na chaiff y gŵyn ei datrys mewn modd boddhaol, gallwch fynd â hi at eu cynllun achredu.
Dylai'r cynlluniau ardystio sicrhau y gall gwerthwyr, prynwyr a benthycwyr ymddiried yng ngwaith yr Arolygwyr Cartrefi. Dylai'r cynlluniau ardystio:
Sut mae cwyno
I ddechrau, dylech gwyno i'r Arolygydd Cartrefi a wnaeth yr asesiad. Gallan nhw roi copi o'u gweithdrefn gwyno i chi.
Os na chaiff y gŵyn ei datrys mewn modd boddhaol, gellir mynd â hi at eu cynllun ardystio.