Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gosod ystafelloedd yn eich cartref

Gall gosod ystafelloedd yn eich cartref roi incwm ychwanegol i chi. Fodd bynnag, os ydych yn gosod (neu'n ystyried gosod) rhan o'ch cartref, mae'n bwysig deall eich dyletswyddau.

Hawliau landlord a thenant

Dan y gyfraith, mae gosod gan landlord preswyl yn golygu bod y landlord a'r tenant yn byw yn yr un adeilad. Mae hyn yn cynnwys addasiadau lle maent yn byw mewn gwahanol rannau o'r un eiddo (pa faint bynnag yn ôl yr addaswyd yr eiddo) ond nid yw'n cynnwys fflatiau a adeiladwyd yn bwrpasol, gyda'r landlord a'r tenant yn byw mewn gwahanol fflatiau.

Mae hawliau landlord a thenant yn wahanol mewn dau brif beth pan mai landlord preswyl sy'n gosod - rhent a diogelwch deiliadaeth.

Yn gyffredinol, ar gyfer rhywun gyda landlord preswyl:

  • nid oes gan y sawl sy'n rhentu hawl i herio lefel y rhent y mae wedi cytuno i'w dalu
  • gall tenantiaid gael llai o rybudd i adael os yw'r landlord am roi'r gorau i osod

Mae'n bwysig darllen yr holl wybodaeth a ddarperir yn y dolenni isod neu gymryd camau cyfreithiol os ydych yn ansicr.

Allweddumynediad llywodraeth y DU