P'un ai landlord neu denant ydych chi, mae'n hanfodol eich bod yn ymwybodol o'ch hawliau a'ch dyletswyddau cyfreithiol. Mae'r gyfraith yn amddiffyn y ddau barti ac ni chewch "gymryd y gyfraith yn eich dwylo eich hun", ni waeth beth fo'r amgylchiadau.
Mae'n bwysig fod landlordiaid yn deall eu dyletswyddau. Mae'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw a'r Ddeddf Cysylltiadau Hiliol yn berthnasol hefyd i unrhyw un sy'n gosod, yn gwerthu neu'n rheoli eiddo. Os oes gennych chi unrhyw amheuaeth, ceisiwch gyngor cyfreithiol.