Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Achredu landlordiaid

Mae awdurdodau lleol wedi hen gydnabod rôl bwysig y sector rhentu preifat o ran darparu llety i amrywiaeth o bobl.

Beth yw achredu a beth yw'r manteision i'r landlordiaid?

Set o safonau (neu god) yw'r drefn achredu sy'n ymwneud â rheoli neu gyflwr ffisegol llety rhent preifat. Mae landlordiaid sy'n ymuno â chynllun ac sy'n cydymffurfio â'r safonau yn cael eu 'hachredu'. Mae'r cynlluniau achredu'n wirfoddol. Does dim rhaid i landlordiaid ymuno, ond mae manteision i wneud hynny, gan gynnwys:

  • statws o gael eu cydnabod yn gyhoeddus fel landlord da
  • cadw pellter rhyngddynt a landlordiaid anghymwys neu ddiegwyddor
  • y fantais fusnes o hysbysebu'u statws achrededig i denantiaid sy'n rhoi pwyslais ar ansawdd da a llety a reolir yn dda

Mae'r buddion a gynigir yn amrywio o gynllun i gynllun ond fe allent gynnwys:

  • swyddog cyswllt sy'n gallu helpu landlordiaid ddelio gydag unrhyw un o adrannau'r awdurdod lleol
  • ymgynghori ar gynigion a allai effeithio ar landlordiaid, megis newidiadau i ddeddfwriaeth neu strategaethau tai lleol
  • mynediad at grantiau a benthyciadau i adnewyddu eiddo i safonau perthnasol a bennir gan y cynllun
  • cyngor ar sut i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • gostyngiadau a phrynu fel grup ar gyfer nwyddau a gwasanaethau megis yswiriant eiddo

Beth yw'r manteision i'r tenantiaid?

Os dewisant rentu gan landlord achrededig, mae'r tenantiaid yn gwybod y bydd yr eiddo mewn cyflwr da, ac y rheolir y denantiaeth yn dda.

Pwy sy'n gweithredu cynlluniau achredu?

Rhedir y rhan fwyaf o'r cynlluniau gan awdurdodau lleol - yr adran tai neu iechyd yr amgylchedd fel arfer.

Cysylltwch â'ch cyngor lleol i gael cyngor am gynlluniau achredu a all fod ar waith yn eich ardal chi.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU