Prydlesau am gyfnod o lai na saith mlynedd yw prydlesau byr. Gall landlordiaid preifat, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (megis cymdeithasau tai) neu gyrff cyhoeddus megis cynghorau lleol roi prydlesau byr.
Maent yn cynnwys tenantiaethau cyfnodol lle nad oes gan y tenant gytundeb cyfnod penodol ac yn meddiannu eiddo, er enghraifft, ar sail wythnosol neu fisol. Mewn rhai achosion, trwydded fydd y trefniant rhwng partïon, nid tenantiaeth.
Dan gyfraith gwlad, os ydych yn denant rhaid ichi ddefnyddio'r eiddo mewn modd cyfrifol. Rhaid i chi ofalu'n briodol amdano. Er enghraifft:
Gall y landlord geisio cael y meddiant yn ôl os yw'r tenant neu rywun sy'n byw gydag ef neu hi wedi difrodi'r eiddo.
Ar wahân i'r ddyletswydd sydd arnoch i ofalu am yr eiddo, at ei gilydd, rhaid i chi wneud atgyweiriadau dim ond os yw telerau'ch cytundeb tenantiaeth yn dweud hynny. Fodd bynnag, beth bynnag a ddywed y cytundeb tenantiaeth, does dim rhaid i chi wneud atgyweiriadau y mae'r landlord yn gyfrifol amdanynt o dan y gyfraith.
I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y llyfrynnau am dai sydd ar gael gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol - 'A better deal for council tenants - your Right to Repair', 'Assured and assured shorthold tenancies a guide for tenants' a 'Regulated tenancies'.
Mae'r gyfraith ar atgyweiriadau yr un mor berthnasol i gytundeb llafar â chytundeb ysgrifenedig, a bydd yr un darpariaethau'n berthnasol. Ond mae'n syniad da cael unrhyw gytundeb i lawr ar bapur os oes modd.
Nid oes gan y sawl sy'n rhoi trwydded yr un dyletswyddau â landlord i gadw eiddo mewn cyflwr da. Fodd bynnag, mae cynghorau lleol yn disgwyl bod eiddo'n bodloni safonau neilltuol er budd iechyd a diogelwch y cyhoedd. Os nad ydy'ch eiddo'n bodloni'r safonau hyn, gall y cyngor orchymyn y sawl sy'n rhoi'r drwydded i wneud gwaith neu atgyweiriadau i wneud yn siur fod yr eiddo'n eu bodloni. Gall Adran Iechyd yr Amgylchedd eich cyngor lleol roi rhagor o wybodaeth i chi.
Nid oes ots pa atgyweiriadau yr ydych wedi'u gwneud. Mae eich diogelwch deiliadaeth yn dibynnu ar y math o brydles sydd gennych, nid ar eich dyletswyddau atgyweirio.