Mae'r mwyafrif helaeth o landlordiaid yn gyfrifol ac yn deg. Os digwydd i chi gael problemau gyda'ch landlord, mae gan eich cyngor rai pwerau cyfreithiol y gall eu defnyddio i'ch helpu.
Mae harasio a throi allan anghyfreithlon yn droseddau fel y'u diffinnir yn Neddf Amddiffyn rhag Troi Allan 1977.
Mae gan eich cyngor bwerau i erlyn pobl sy'n troseddu. Bydd swyddogion tai'r cyngor yn ymchwilio i gwynion a chyfryngu rhwng y ddwy ochr lle bo modd. Bydd eich cyngor yn ystyried erlyn lle bo digon o dystiolaeth i ddangos y bydd hynny'n llwyddiannus a lle bo hynny er budd y cyhoedd
Mae gan y cyngor bwerau i erlyn landlordiaid nad ydynt yn cyflawni'u dyletswyddau dan Ddeddf Landlord a Thenant 1985, (fel y'i diwygiwyd).
Mae materion o'r fath yn cynnwys peidio â darparu llyfrau rhent a rhydd-ddeiliaid yn gwrthod rhoi gwybodaeth i denantiaid gyda phrydles hir ynghylch taliadau gwasanaeth ac yswiriant.
Pan dderbynnir cwyn, bydd swyddogion tai'r cyngor yn ceisio sicrhau bod y wybodaeth y gofynnir amdani yn cael ei darparu. Fodd bynnag, mewn achos lle parheir i fethu â darparu'r wybodaeth, bydd y cyngor yn ystyried erlyn.
Os ydy'ch cyflenwadau dur, trydan neu nwy wedi cael eu diffodd neu'n debygol o gael eu diffodd, oherwydd eich landlord, gall y cyngor helpu. Dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976, gall y cyngor drefnu i adfer y prif wasanaethau ar gyfer ei drigolion.
Defnyddir y pwerau hyn dim ond pan fydd popeth arall wedi methu mewn achosion o argyfwng ac wedyn dim ond pan fo hynny yn effeithio ar blant ifanc neu bobl oedrannus.
Ymhob achos, bydd y cyngor yn gweithio'n agos gyda'r cyflenwyr a lle bo'n bosibl byddant yn ceisio cymorth a chefnogaeth y cyflenwyr.