Os ydych yn byw mewn eiddo lle mae tri neu fwy o bobl yn byw, ac o leiaf un ohonynt nad ydynt yn perthyn i'r lleill, a'ch bod yn rhannu cyfleusterau, bydd eich cyngor yn galw'r math hwn o lety yn Dai Amlfeddiannaeth (HMO).
Mae'n rhaid dilyn rheolau arbennig wrth reoli tai amlfeddiannaeth ac efallai y bydd ar rai angen trwydded eiddo.
Os ydych yn byw mewn eiddo gyda dau neu fwy o bobl nad ydynt yn perthyn i chi neu bartner, a bod o leiaf un ohonoch yn talu rhent, rhannu cegin, ystafell ymolchi neu doiled, mae'n debyg eich bod yn byw mewn tŷ amlfeddiannaeth.
Yn aml disgrifir y mathau canlynol o lety yn dai amlfeddiannaeth:
Mae rhai mathau o lety a rennir nad ydynt yn cael eu hystyried yn Dai Amlfeddiannaeth. Dyma rai enghreifftiau:
Eich landlord sy'n gyfrifol am sicrhau bod eich cartref mewn cyflwr da a'i fod yn addas ar gyfer nifer o denantiaid. Os oes rhaid trwyddedu'ch cartref, gall yr awdurdod tai lleol osod amodau i sicrhau nad oes mwy na'r nifer a ganiateir yn byw yn yr eiddo. Bydd eich cyngor hefyd yn archwilio'r cyfleusterau a sicrhau bod yr eiddo'n cael ei reoli'n briodol.
Pa un a ydy'r Tŷ Amlfeddiannaeth yr ydych yn byw ynddo wedi'i drwyddedu gan y cyngor neu beidio, rhaid i'ch landlord gydymffurfio â'r rheoliadau rheoli. Ni ddylai fod unrhyw beryglon yn yr eiddo ychwaith sy'n debygol o effeithio'n ddifrifol ar eich iechyd a'ch diogelwch. Os ydych o'r farn fod perygl yn eich cartref, dylech gysylltu â'r cyngor.
Ymhob eiddo ar rent, rhaid i'r prif wasanaethau, megis nwy, gydymffurfio â rheoliadau diogelwch a dylai'r holl ddodrefn basio safonau diogelwch rhag tân. Mae dyletswydd ar y landlord i sicrhau bod y cyflenwad nwy yn cael ei archwilio bob blwyddyn a bod tystysgrif yn cael ei darparu. Mae gennych hawl i weld y dystysgrif.
Er 6 Ebrill 2006, mae'n orfodol trwyddedu llety a rennir o dri llawr neu fwy sy'n gartref i 5 neu fwy o bobl sy'n cyfateb i fwy nag un aelwyd. Gall aelwyd gynnwys dau berson priod neu bartneriaid sifil. Gall yr aelwyd hefyd gynnwys pobl sy'n perthyn i'w gilydd neu 'nanis' neu staff domestig eraill sy'n byw gyda'r teulu.
Mae gan awdurdodau lleol bwerau hefyd i weithredu cynlluniau trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth ychwanegol, a fydd yn berthnasol i eiddo yn eu hardal sy'n llai na thri llawr ac a rennir gan lai na 5 o bobl. Os ydych yn ansicr ynghylch unrhyw fater trwyddedu gyda golwg ar eich llety, dylech gysylltu â'ch cyngor.
Ni chaiff eich landlord droi tenantiaid allan er mwyn dod â nifer y preswylwyr yn yr eiddo o dan y trothwy ar gyfer trwyddedu. Os bydd eich landlord yn bygwth eich troi allan, dylech gysylltu â'r cyngor ar unwaith. Bydd gan eich cyngor fanylion llinellau gwybodaeth y tu allan i oriau a rhifau cyswllt mewn argyfwng. Cysylltwch â'ch canolfan cyngor tai i gael gwybodaeth lawn am y gwasanaethau cymorth sydd ar gael i chi.
Os credwch eich bod yn byw mewn eiddo a ddylai fod wedi cael ei drwyddedu ond nad ydyw, gallwch riportio'ch landlord i'r cyngor.
Rhaid i'r person cyfrifol h.y. y landlord neu'r person sy'n rheoli Tŷ Amlfeddiannaeth, neu eiddo arall y bydd rhaid ei drwyddedu, wneud cais i'r cyngor lleol am y drwydded a thalu'r ffi briodol. Er 6 Gorffennaf 2006, mae hi'n drosedd i gadw Tŷ Amlfeddiannaeth heb drwydded.
Os ydych o'r farn fod eich cartref o dan safon derbyniol, dylech leisio'ch pryderon gyda'ch landlord. Os nad yw hyn yn bosibl neu os ydych yn dal yn bryderus, dylech siarad â'ch cyngor. Mae gan y cyngor bwerau i gymryd camau yn erbyn landlord i sicrhau bod yr holl safonau ar gyfer tai a rennir yn cael eu bodloni; gan gynnwys materion rheoli a ffisegol.
Bydd y dolenni isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth am archwiliadau'r cyngor.