Mae llety ar rent yn cael ei ddarparu gan dri phrif ddarparwr: landlordiaid preifat, cynghorau lleol a chymdeithasau tai. Gallwch ddod i wybod mwy hefyd am opsiynau tai ar gyfer pobl anabl, myfyrwyr a phobl 60 oed a throsodd.
Bydd landlordiaid preifat fel arfer yn rhentu'u heiddo ar bris y farchnad ac mae eu hawl i godi'r rhent yn dibynnu ar y math o denantiaeth. Cofiwch gael cytundeb tenantiaeth a'i ddarllen yn ofalus cyn ymrwymo iddo.
Bydd landlord preifat yn gofyn am flaendal fel arfer. Dylech sicrhau bod cyflwr yr eiddo ac unrhyw eitemau dodrefn yn cael eu cofnodi ar restr a bod y cytundeb tenantiaeth yn nodi:
Gallwch gysylltu â'ch cyngor lleol i weld a oes ganddynt restr o landlordiaid achrededig yn eich ardal. Hefyd, gallwch chwilio am asiant gosod sydd wedi'i gofrestru gyda'r Cynllun Gosod Cymeradwy Cenedlaethol, a gefnogir gan y llywodraeth, ar eu gwefan.
Os oes angen llety ar rent arnoch, efallai y byddwch yn gymwys i gael cartref gan y cyngor neu gymdeithas dai. Fel arfer, nid yw cymdeithasau tai yn dyrannu'u cartrefi i bobl yn uniongyrchol, dim ond trwy restr tai'r cyngor. Bydd y cyngor yn dyrannu tai i'r rhai gyda'r angen mwyaf ar y rhestr ac mae galw mawr am eu cartrefi'n aml.
Darllenwch ein gwybodaeth ar gyfer myfyrwyr addysg uwch, a fydd yn eich helpu i ddewis cwrs a lle i astudio, a hefyd lle i fyw.
Pa un a ydych am gael gwybod am gartrefi gofal neu eisiau rhagor o wybodaeth am fyw'n annibynnol, bydd yr holl wybodaeth o dan 'Tai ac opsiynau tai' yn yr adran pobl anabl yn cynnwys popeth y byddwch ei angen.
Efallai mai tai gwarchod fydd yn addas i chi os ydych yn 60 oed neu fwy ac am fyw mewn cartref sydd wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer anghenion y person hwn. Cewch wybod mwy o dan 'Cynlluniau Tai Gwarchod' yn yr adran pobl anabl.