Cytundeb cyfreithiol ar bapur yw'r cytundeb tenantiaeth sy'n nodi hawliau a chyfrifoldebau'r tenant a'r landlord. Bydd yn cynnwys manylion megis hyd y cytundeb, y rhent i'w dalu a beth y gellir neu na ellir ei gadw yn yr eiddo, er enghraifft anifeiliaid anwes.
Ceir gwahanol fathau o gytundeb tenantiaeth. Mae rhai yn rhoi mwy o hawliau na'i gilydd i'r tenant, ac mae gan y rhan fwyaf o bobl un o dri math:
Y Denantiaeth Fyrddaliol Sicr yw un o'r rhai mwyaf cyffredin yn y sector rhentu preifat. Os dechreuodd eich tenantiaeth, neu os cytunwyd arno, ar 28 Chwefror 1997 neu ar ôl hynny, mae'n debygol o fod yn Denantiaeth Fyrddaliol Sicr. Mae tenantiaethau a ddechreuodd, neu y cytunwyd arnynt, cyn y dyddiad hwnnw ond ar ôl 15 Ionawr 1989, yn fwy tebygol o fod yn Denantiaethau Sicr.
Fodd bynnag, mae'n bwysig eich bod yn gwybod os nad ydych yn Denant Sicr neu'n Denant Byrddaliol Sicr oherwydd gallai eich hawliau fod yn wahanol.
Mae Tenantiaethau Contractaidd Moel yn tueddu i ddigwydd mewn tai mawr lle bydd nifer o bobl yn meddiannu eiddo, er enghraifft, tŷ myfyrwyr. Dim ond 5 person yn talu £100 o rent bob wythnos sydd ei angen er mwyn i'r rhent blynyddol fod yn fwy na £25,000.
Dylech geisio gweld sut y bydd eich amgylchiadau chi yn diffinio cytundeb eich tenantiaeth.
Ymddiriedolaeth dai neu gymdeithas dai fydd yn rhoi'r math yma o gytundeb tenantiaeth fel rheol. Byddant yn cynnig rhywfaint o sicrwydd cyn belled nad ydych yn torri telerau'r cytundeb tenantiaeth, cewch barhau i fyw yn yr eiddo.
Os symudoch i'r eiddo cyn 15fed Ionawr 1989, efallai bod gennych Denantiaeth Reoledig neu Warchodedig. Y math hwn o denantiaeth sy'n cynnig yr amddiffyniad mwyaf yn erbyn cynnydd yn y rhent neu droi allan.
Bydd y math sydd gennych yn dibynnu ar ba bryd y cafodd ei wneud. Gellir dod o hyd i fwy o fanylion mewn llyfrynnau a gyhoeddwyd gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol:
Gellir dod o hyd i'r rhain yn y dolenni isod.
Bydd landlordiaid preifat fel arfer yn rhentu'u heiddo ar bris y farchnad ac mae eu hawl i godi'r rhent yn dibynnu ar y math o denantiaeth.
Mae gan denantiaid sydd â chyfnod penodol o dair blynedd neu fwy hawl gyfreithiol i gytundeb tenantiaeth ysgrifenedig. Fodd bynnag, lle nad oes cytundeb tenantiaeth ysgrifenedig, mae gan denant sydd â thenantiaeth byrddaliol, yn dechrau ar 28 Chwefror 1997 neu ar ôl hynny, yr hawl i ofyn am ddatganiad ysgrifenedig ar unrhyw un o brif delerau'r denantiaeth a welir isod.
Pan fyddwch yn symud i mewn i'ch cartref mae'n debygol y bydd gofyn i chi roi blaendal i'r landlord neu'r asiantaeth lety. Gofynnir am hwn er mwyn talu am unrhyw rent na fydd yn cael ei dalu, neu unrhyw ddifrod a wneir i'r eiddo. Weithiau, pan fydd tenant yn penderfynu symud ymlaen, efallai y bydd dadlau ynghylch y swm sydd i fod i gael ei ad-dalu.
Pan fyddwch yn arwyddo'ch cytundeb tenantiaeth, gofalwch archwilio'r manylion er mwyn gweld beth fydd eich blaendal yn talu amdano s sut y bydd yn cael ei ad-dalu. Dylech hefyd ofyn am restr o'r hyn sydd yn yr eiddo pan fyddech yn symud i mewn. Sicrhewch eich bod yn cytuno â thelerau ac amodau'r denantiaeth cyn trosglwyddo unrhyw arian.
Er mwyn helpu i ddod â'r broblem o flaendal tenant yn cael ei ddal yn ôl mewn modd annheg gan landlordiaid ac asiantau i ben, mae Cynlluniau Diogelu Blaendal Tenantiaid wedi cael eu cyflwyno. Rhaid i bob blaendal sy'n cael ei gymryd ar gyfer tenantiaeth fyrddaliol sicr gael ei amddiffyn gan gynllun awdurdodedig gan y llywodraeth. Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth ynghylch y Cynlluniau Blaendal Tenantiaeth drwy ddefnyddio'r ddolen isod.
Os ydych ar incwm isel, efallai y gallwch gael Budd-dal Tai i helpu tuag at dalu'r rhent. Defnyddir eich cynilion a'ch incwm i gyfrifo a allwch gael y budd-dal, ac os felly, faint.
Gallwch gael mwy o wybodaeth gan eich cyngor lleol neu'r Adran Gwaith a Phensiynau lle gallwch hefyd lwytho ffurflen hawlio Budd-dal Tai oddi ar y we.