Fel tenant, mae gennych hawliau a ddiogelir gan y gyfraith. Serch hynny, gall fod yn anodd cael trefn ar broblemau gyda'ch cartref, ond mae digon o gyngor a chefnogaeth ar gael i'ch helpu.
Os yw eich landlord yn ceisio'ch troi allan heb gael Gorchymyn Llys, neu wedi methu â gwneud gwaith atgyweirio angenrheidiol er iddynt gael cais/ceisiadau rhesymol i wneud hynny, gallwch gysylltu â swyddog cysylltiadau tenantiaid eich cyngor lleol.
Neu gallwch geisio cyngor gan y sefydliadau a restrir yn y ddolen isod, neu gyfreithiwr.
Mae'r gyfraith yn amddiffyn pobl mewn eiddo preswyl rhag harasio. Gwna hyn mewn dwy ffordd:
Er hynny, os digwydd ymosodiad corfforol go iawn, dylai'r tenant alw'r heddlu.
Bydd y dolenni isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth.
Os ydych yn cael problemau talu'ch rhent neu filiau eraill, ewch i'n hadran ar reoli dyled.
Os byddwch yn cael problemau gyda'ch cymdogion, ewch i'r adran Directgov ar anghydfodau rhwng cymdogion.
Cewch fwy o wybodaeth drwy ddarllen ein herthygl am atgyweirio tai a chyfrifoldebau landlordiaid.
Os oes angen i chi symud oherwydd problemau yn y cartref, cysylltwch i gychwyn gydag adran dai eich cyngor lleol i drafod eich hawliau. Os ydych yn denant gyda chymdeithas dai, siaradwch â'ch swyddog tai i geisio dod o hyd i ateb. Gallwch hefyd drafod eich sefyllfa gyda chynghorwyr sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig o fudiadau cyngor a restrir yn yr erthygl 'Trais yn y cartref - cael cymorth', lle cewch fwy o wybodaeth i'ch helpu hefyd.